dijous, 29 de juny del 2017

Y NÎSHAD BOC


Yn y Wenhwyseg, ‘nîshad boc’ yw hances neu facyn. 

O edrych yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, gwelir i’r gair ‘nisied’ ddod o air Saesneg Diweddar Cynnar ‘nycette’ y mae ei hanes yn anhysbys.

Gyda llaw, nid talfyriad ar y gair 'poced', fel y tybiwn, yw 'poc' ond o’r gair Saesneg ‘poke’ = ‘bàg' y daw, yn ôl GPC.


Penderfynais fynd ar drywydd y gair hwnnw gan deithio’r rhyngrwyd gyda Google.

Chefais i hyd i fawr o beth ar y cychwyn. Ond o dipyn i beth dyma amryw loffion yn ymddangos.

Yn ôl ‘The Dictionary of Fashion History’ (1960) gan Valerie Cumming  yn y 1400au a’r 1500au cynnar y bu’r ‘nycette’ neu ‘niced’ mewn bri, a ’macyn ysgafn ar gyfer y gwddf’ yw (‘a light wrapper for the neck’). Ceir yr un wybodaeth yn ‘The Complete Costume Dictionary’ (2011) gan Elizabeth Lewandowski, a yno hefyd dywedir iddi fod yn y ffasiwn rhwng 1450-1550.

Am fod golwg gair Ffrangeg arno, bûm yn edrych mewn geiriaduron Ffrangeg hynafol a chyfoes, ond heb gael hyd i ddim perthnasol. O newid tipyn ar y sillafiad (nicette) gwelir fod ‘nicette’ yn hen air wedi mynd o arfer am un ffôl wrth gyfeirio at fenyw (a ‘nicet’ wrth sôn am ddyn). Hynny yw, ‘un wirion’ y Gogleddwyr.

Gynt yr oedd hefyd yn air anwes i ferch â’r ystyr ‘un ddiniwed’ iddo, sef ‘un wirion’ fel y’i deëllir yn y De.

Mewn slang yn y Ffrangeg ‘olif’ yw ‘nisette’.  

Ac fel enw ar ferch, ffurf fachigol ar ‘Bérénice’ yw.

Ond gwelais taw mynd ar ôl ysgyfarnog bu'r pori hyn mewn geiriaduron Ffrangeg 

Dyma wedyn wefan Megadict yn cynnig rhagor o sillafiadau (nyzett, nysett) ac y mae tair enghraifft ganddi o’r gair ‘nysett’ mewn ewyllysau rhwng 1499 a 1530 yn Wiltshire a Gwlad yr Haf.

Rhoi cynnig ar ‘nysett’ eto a wneuthum,  a chael hyd i wefan o’r enw ‘The A-Z of Yeovil’s History’, ac yn y fan honno cefais y wybodaeth hon:


A chwedyn dyma ddod ar draws gwefan arall lle y bu sôn am y ‘nysett’ mewn hen ewyllysau o esgobaeth Bath a Wells (sef Gwlad yr Haf). (Wells Wills; Arranged in Parishes, and Annotated. (1890).  Frederick William Weaver.)


...
....



.....



Felly ai gair o Wlad yr Haf a’r cyffiniau yw neisied yn y bôn, fel cynifer yn nhafodiaith y De-ddwyrain, a cc ambell enw lle Bro Gwent a Bro Morgannwg?