divendres, 19 de maig del 2017

Elái ynteu Élai? Rhan 2.


Rhagor o gwestinau ar gyfer y fforwm Enwau Lleoedd. Efallai bydd rhywrai yn roi cynnig ar eu hateb.

(1) Onid oes golwg led anarferol ar yr enw Tre-lai / Tref-elái? Mae’n bur anghyffredin (am a wn i) gweld enghreifftiau o’r patrwm (elfen TREF) + (enw afon).

Mae’r enw Trefynwy yn bodoli, wrth gwrs, ond eithriad prin arall yw. Onid enw cymharol ddiweddar oedd hwnnw? Mae’r enw Saesneg yn awgrwymu ei fod yn drosiad o ryw ffurf Gymraeg *Abermynwy (arllwysfa Mynwy i Wy) am ei fod yn beth hynod, mi ddywedwn, gweld mewn enwau Saesneg ‘mouth’ â’r ystyr ‘genau isafon sydd yn llifo i afon’ yn hytrach na ‘genau afon sydd yn llifo i’r môr” (Bournemouth, Exmouth, Dartmouth, ayyb).

Mae hefyd heol ym Mrynsiencyn, Ynys Môn, o’r enw Trefenai (neu ‘Tre Fenai’ ar Fapiau Google’) ond enw gwneud diweddar yw hwn o bosibl.

Yn ôl Hobson Matthews (Cardiff Records, 1898ff) :

ELY FARM. An ancient homestead in the hamlet of Ely. It was the hereditary property and residence of the late George Thomas (1821–1898), a Glamorgan farmer of the old school.

Ai Cymreigiad ar yr enw Saesneg ‘Ely’ yw Tre-lai, megis lleoedd Bro Morgannwg Tre-lales (Laleston), Tre-os / Tre-oes, Tredodridge, Trewalter, ayyb?

Byddai’r Saeson yn arfer enwau afon ar bentrefi a threfi Cymru am ryw reswm neu’i gilydd megis Brynbuga / Usk; Aberconwy / Conway (mae enw tref Conwy yn ymddangos bod yn Gymreigiad o’r enw Saesneg i bob pwrpas), Mynyddcynffig / Kenfig, Aberogwr / Ogmore-by-Sea.

Felly, oni fu yma enw Saesneg ‘Ely’ yn unig nes i’r Cymry yn yr Oesoedd Canol ail-feddiannu Bro Morgannwg?

(Ni wn pa mor hen yw’r enw ‘Ely’, na ‘Thre-lai’. Efallai nid oes sail o gwbl i’r hyn yr wyf yn ei gynnig yma!).

(2) Beth yw ynganiad lleol Lanelay Hall yn Nhonysguboriau (os nad LEIN-lei yw erbyn hyn!). Lanéli? Lanélai? Lanelái? Lanlái?