divendres, 23 de desembre del 2016

NADOLIG GYDA’R CYMRY YN WORKINGTON (1881)


Cant ac un ar bymtheg a deugain o flynyddoedd yn ôl, yn y dref honno yn yr hen Cumberland yng ngogledd-orllewin Lloegr, cynhaliwyd Eisteddfod Nadolig gan Gymry’r cylch.



Adroddiad o Faner ac Amserau Cymru 12 Ionawr 1881.
 
NADOLIG GYDA’R CYMRY YN WORKINGTON

CEFAIS wythnos ddedwydd yn eu cymdeithas; croesaw cynnhes, mewn annedd hyfryd, gyda theulu hawddgar y pen cerddor coeth ac enwog, W. Griffiths, Ysw. (Ivander), perchenog y “Derwent Tinplate Works” – yr hwn, drwy ei fedr a’i ffyddlondeb, sydd wedi llenwi a chynnhesu calonau, nid yn unig ieuengctyd, ond teidiau a neiniau almonaidd tref Workington, a’r cylchoedd cymmydogaethol, o ysbryd a doniau cân; ac hefyd wedi magu awyddfryd yn ei heneidiau at lenyddiaeth goethedig. Cefais dridiau tawel yn ei dy^ i ddarllen a beirniadu cyfansoddiadau barddonol a rhyddieithol eu Heisteddfod Nadolig.

Yr oedd pwngc eu prif draethawd, sef “Dylanwad esampl,” yn un o fuddioldeb ymarferol, o’r natur mwyaf pwysfawr. Derbyniwyd pedwar traethawd rhagorol arno – dau yn Gymraeg, a dau yn Saesneg: cyfansoddiadau o anrhydedd i w^yl lenyddol. Gwnaeth y beirniad nodiadau ar bob un ohonynt; ond ei ddyfarniad oedd, rhanu y wobr rhwng yr ymgeisydd Cymreig, Llaw a Chalon, a’r ymgeisydd Saesnig, The Two Shamrocks – sef Mr. M. Humphreys (Amanwyson), Derwent Tinplate Works, a Mr. Boulton, Cockermouth. Annogodd y beirniad ar i’r trathodau gael eu hargraphu, am y gallent fod o fuddioldeb ëang a gwerthfawr, yn enwedig mewn cylchoedd teuluaidd 
 
Prif gangen y farddoniaeth oedd chwe phennill, wyth llinell yr un, ar “Ostyngeiddrwydd.” Denodd hawddgarwch y fath rinwedd grasol chwech o ymgeiswyr i’r gystadleuaeth – sef dau Sais, a phedwar Cymro. Yr oedd eu penillion yn rhai darluniadol a chynnwysfawr, mewn iaith goeth, ystwyth; ond dyfarnwyd y wobr i Glan yr-afon – sef Mr. Thomas Williams (Cariadfab), Derwent Tinplate Works.

Pwng arall oedd wyth llinell o farddoniaeth, “Cyfarchiad i’r Nadolig;” a daeth i law chwech o benillion tarawiadol a rhagorol, yn enwedig pan feddylir nad oedd gan yr ymgeiswyr ond llai nag awr i gyfansoddi ac ysgrifenu eu penillion. Dyfarnwyd y wobr i Mr. D. Shakespeare, Derwent Tinplate Works. Ennillwyd y wobr am yr araeth fyrfyfyr oreu ar “Dywyllwch” gan Mr. T. Morgan (Adi), Derwent Tinplate Works. Yr adroddiad difyr gan Mr. Alfred Spencer, a chan Gough Humphreys, bachgenyn siriol saith oed.

Cafwyd cystadlu rhagorol mewn cerddoriaeth. Ennillwyd y gwobrau fel y canlyn yn y gangen hon: - Y pianoforte solo gan Master Thompson, Workington; tenor gan Mr. Davies; darllen cerddoriaeth ar yr olwg gyntaf gan R. Reece a T. Williams; soprano song gan Miss M. J. Williams; bass song gan Mr. J. Armstrong; choral by children, y Derwent Juvenile Choir; instrumental quartette, y Mri. Grayburn a’i gwmni: deuawd, Davies a Hopkins; trio, Mr. T. Williams a’i barti; y canu corawl, y Derwent Choir, o dan arweiniad Mr. Levi Williams. Rhai cyflym a medrus iawn i dynu peroriaeth swynol y violin oedd y llangc gobeithiol, Taliesin ap Ivander, a’r Mri. Lewis a Brown. Cyflawnodd y llywydd, C. J. Valentine, Ysw., a’r ysgrifenydd, Mr. D. R. Winstone, eu gwaith yn y modd

boneddigeiddiaf. Ac aed drwy y program oll mewn o ddeutu pedair awr – amser cymmedrol.

Cafwyd cyngherdd poblog yn yr hwyr. Gan y band, cafwyd overture gref, ac wyth o ganau cynnhes gan gôr y lle, o dan arweiniad baton eu blaenor awenyddol, Ivander. Canasant ddarnau detholedig o weithiau anfarwol Mendelshon [sic] a Handel; a chanwyd amryw ganau swynol nodedig gan Mr. Metcalfe, ac yn arbenig gan Mr. Lizzie Williams (Llinos y De) a Mr. D. Lewis (Eos Dyfed). Nid oeddym yn synu chwaith fod seiniau treiddiol tannau mwynion violin Mr. E. Horace Packer yn gwefreiddio yr holl gynulleidfa.

Ond gallaf dystio, ar fỳr eiriau yn y fan yma, i mi fwynhau canu addoliad y Sabbath yn y cyssegr yn fwy na chaniadau cywreiniaf a melusaf y gyngherdd yn y Town Hall. Canwyd yn dyner iawn amryw o dônau Sankey yn yr Ysgol Sul; eithr yr hyn a’m cynhesodd fwyaf oedd yr hen emynau a’r hen dônau oeddid yn arfer ganu gan yr hen dadau a’r mamau Puritanaidd ar gychwyniad y ganrif bresennol – hen bennillion a hen alawon fyddant yn ysgwyd ac yn toddi cynnulleidfaoedd, yn dryllio y galon galed, yn denu holl gylchoedd eglwysi Cymru. A da iawn genyf feddwl fod y pencerdd, W. Griffiths, Ysw., Derwent Tinplate Works, Workington, ddetholiad o’r hen dônau a’r hen emynau hyny yn barod i’r wasg, i’w cyhoeddi yn llyfr cryno, cyfoethog, a rhadlawn; o blegid y mae llaweroedd eisoes yn credu y bydd ei gasgliad 
 
un o wasanaeth annhraethol effeithiol er cynnheau a melysau mawl a gweddïau eglwysi Cymru.

Y mae yn achos o galondid ac o lawenydd fod y Pencerdd Ivander, yr hwn sydd wedi cael ei ethol i fod yn un o feiriniaid cerddoriaeth leisiol ac offerynol yr Eisteddfod Genedlaerthol nesaf, a’r hwn sydd yn medru mwynhau a gwerthfawrogi yr alawon cywreiniaf, a’r dull mwyaf clasurol o’u canu, yn gosod ei fryd, gyda’r fath ofal, am ddwyn etto i arferiad yn ein cyssegroedd hen dônau cynnes a nefolaidd “amseroedd y diwygiadau;” a hyderwn y bydd i eglwysi Cymru gydymdroi o galon i’w gefnogi mewn anturaieth ag sydd yn debyg o effeithio mor ëang a pharhaol er lles i achos Cristionogaeth.

Y mae y baton aur ardderchog, a’r baton ifori modrwyog, a’r cwpanau arian, a’r organ a gafodd yn anrhegion oddi wrth y còrau cerddorol a fuont dan ei addysg, ynghyd â’r tystebau eraill a dderbyniodd, yn brofion amlwg o barch ei ddisgyblion iddo am ei lafur yn yr amser a aeth heibio. Ond er mor dderbyniol a defnyddiol y mae wedi bod, yr ydym yn hyderus mai ei ddetholiad o hen dônau a hen emynau amseroedd hyfryd y diwygiadau fydd coroniad ei wasanaeth i gân ei genedl; ac yr ydym yn hyderus y bydd i’w ddysgyblion a’i adnabyddwyr oll ei gefnogi ar unwaith mewn anturiaeth o’r fath gyfrifoldeb yn gystal a’r fath fuddiolddeb. – S. R.

Ôl-nodyn:

Marwolaeth - Blin iawn genym orfod cofnodi marwolaeth yr arweinydd poblogaidd, Mr. Levi Williams (ab Gwent), yr hyn a gymerodd le nos Sul diweddaf yn Workington. Dywedir mai o’r Cholera y bu efe farw. Mab ydoedd i’r diweddar Mr. Dd. Williams, un o ddiaconiaid parchus Jerusalem, Rhymni, ac am flynddau lawer yn Siloh, Tredegar. Bu Ab Gwent yn aelod ac yn arweinydd y côr am lawer o flynyddau yn nghapel Siloh, lle y teimlir hiraeth mawer ar ei ol. Yn herwydd marweidd-dra masnach y gwaith haiarn yn y lle hwn, tua phedair mlynedd yn ol, symudodd Levi i Workington, lle y bu farw ei anwyl briod. Un anwyl iawn gan bawb ydoedd Levi – pawb yn ei hoffi ac yn ei garu yn fawr yn y cymydogaethau hyn, ac yn ddiamheu genym ei fod yr un mor barchus ac anwyl i fyny yn ngwlad y Sais. Bu yn arweinydd Côr Undebol Tredegar am flynyddau. Claddwyd ef dydd Iau diweddaf yn Workington.