divendres, 23 de desembre del 2016

NADOLIG GYDA’R CYMRY YN WORKINGTON (1881)


Cant ac un ar bymtheg a deugain o flynyddoedd yn ôl, yn y dref honno yn yr hen Cumberland yng ngogledd-orllewin Lloegr, cynhaliwyd Eisteddfod Nadolig gan Gymry’r cylch.



Adroddiad o Faner ac Amserau Cymru 12 Ionawr 1881.
 
NADOLIG GYDA’R CYMRY YN WORKINGTON

CEFAIS wythnos ddedwydd yn eu cymdeithas; croesaw cynnhes, mewn annedd hyfryd, gyda theulu hawddgar y pen cerddor coeth ac enwog, W. Griffiths, Ysw. (Ivander), perchenog y “Derwent Tinplate Works” – yr hwn, drwy ei fedr a’i ffyddlondeb, sydd wedi llenwi a chynnhesu calonau, nid yn unig ieuengctyd, ond teidiau a neiniau almonaidd tref Workington, a’r cylchoedd cymmydogaethol, o ysbryd a doniau cân; ac hefyd wedi magu awyddfryd yn ei heneidiau at lenyddiaeth goethedig. Cefais dridiau tawel yn ei dy^ i ddarllen a beirniadu cyfansoddiadau barddonol a rhyddieithol eu Heisteddfod Nadolig.

Yr oedd pwngc eu prif draethawd, sef “Dylanwad esampl,” yn un o fuddioldeb ymarferol, o’r natur mwyaf pwysfawr. Derbyniwyd pedwar traethawd rhagorol arno – dau yn Gymraeg, a dau yn Saesneg: cyfansoddiadau o anrhydedd i w^yl lenyddol. Gwnaeth y beirniad nodiadau ar bob un ohonynt; ond ei ddyfarniad oedd, rhanu y wobr rhwng yr ymgeisydd Cymreig, Llaw a Chalon, a’r ymgeisydd Saesnig, The Two Shamrocks – sef Mr. M. Humphreys (Amanwyson), Derwent Tinplate Works, a Mr. Boulton, Cockermouth. Annogodd y beirniad ar i’r trathodau gael eu hargraphu, am y gallent fod o fuddioldeb ëang a gwerthfawr, yn enwedig mewn cylchoedd teuluaidd 
 
Prif gangen y farddoniaeth oedd chwe phennill, wyth llinell yr un, ar “Ostyngeiddrwydd.” Denodd hawddgarwch y fath rinwedd grasol chwech o ymgeiswyr i’r gystadleuaeth – sef dau Sais, a phedwar Cymro. Yr oedd eu penillion yn rhai darluniadol a chynnwysfawr, mewn iaith goeth, ystwyth; ond dyfarnwyd y wobr i Glan yr-afon – sef Mr. Thomas Williams (Cariadfab), Derwent Tinplate Works.

Pwng arall oedd wyth llinell o farddoniaeth, “Cyfarchiad i’r Nadolig;” a daeth i law chwech o benillion tarawiadol a rhagorol, yn enwedig pan feddylir nad oedd gan yr ymgeiswyr ond llai nag awr i gyfansoddi ac ysgrifenu eu penillion. Dyfarnwyd y wobr i Mr. D. Shakespeare, Derwent Tinplate Works. Ennillwyd y wobr am yr araeth fyrfyfyr oreu ar “Dywyllwch” gan Mr. T. Morgan (Adi), Derwent Tinplate Works. Yr adroddiad difyr gan Mr. Alfred Spencer, a chan Gough Humphreys, bachgenyn siriol saith oed.

Cafwyd cystadlu rhagorol mewn cerddoriaeth. Ennillwyd y gwobrau fel y canlyn yn y gangen hon: - Y pianoforte solo gan Master Thompson, Workington; tenor gan Mr. Davies; darllen cerddoriaeth ar yr olwg gyntaf gan R. Reece a T. Williams; soprano song gan Miss M. J. Williams; bass song gan Mr. J. Armstrong; choral by children, y Derwent Juvenile Choir; instrumental quartette, y Mri. Grayburn a’i gwmni: deuawd, Davies a Hopkins; trio, Mr. T. Williams a’i barti; y canu corawl, y Derwent Choir, o dan arweiniad Mr. Levi Williams. Rhai cyflym a medrus iawn i dynu peroriaeth swynol y violin oedd y llangc gobeithiol, Taliesin ap Ivander, a’r Mri. Lewis a Brown. Cyflawnodd y llywydd, C. J. Valentine, Ysw., a’r ysgrifenydd, Mr. D. R. Winstone, eu gwaith yn y modd

boneddigeiddiaf. Ac aed drwy y program oll mewn o ddeutu pedair awr – amser cymmedrol.

Cafwyd cyngherdd poblog yn yr hwyr. Gan y band, cafwyd overture gref, ac wyth o ganau cynnhes gan gôr y lle, o dan arweiniad baton eu blaenor awenyddol, Ivander. Canasant ddarnau detholedig o weithiau anfarwol Mendelshon [sic] a Handel; a chanwyd amryw ganau swynol nodedig gan Mr. Metcalfe, ac yn arbenig gan Mr. Lizzie Williams (Llinos y De) a Mr. D. Lewis (Eos Dyfed). Nid oeddym yn synu chwaith fod seiniau treiddiol tannau mwynion violin Mr. E. Horace Packer yn gwefreiddio yr holl gynulleidfa.

Ond gallaf dystio, ar fỳr eiriau yn y fan yma, i mi fwynhau canu addoliad y Sabbath yn y cyssegr yn fwy na chaniadau cywreiniaf a melusaf y gyngherdd yn y Town Hall. Canwyd yn dyner iawn amryw o dônau Sankey yn yr Ysgol Sul; eithr yr hyn a’m cynhesodd fwyaf oedd yr hen emynau a’r hen dônau oeddid yn arfer ganu gan yr hen dadau a’r mamau Puritanaidd ar gychwyniad y ganrif bresennol – hen bennillion a hen alawon fyddant yn ysgwyd ac yn toddi cynnulleidfaoedd, yn dryllio y galon galed, yn denu holl gylchoedd eglwysi Cymru. A da iawn genyf feddwl fod y pencerdd, W. Griffiths, Ysw., Derwent Tinplate Works, Workington, ddetholiad o’r hen dônau a’r hen emynau hyny yn barod i’r wasg, i’w cyhoeddi yn llyfr cryno, cyfoethog, a rhadlawn; o blegid y mae llaweroedd eisoes yn credu y bydd ei gasgliad 
 
un o wasanaeth annhraethol effeithiol er cynnheau a melysau mawl a gweddïau eglwysi Cymru.

Y mae yn achos o galondid ac o lawenydd fod y Pencerdd Ivander, yr hwn sydd wedi cael ei ethol i fod yn un o feiriniaid cerddoriaeth leisiol ac offerynol yr Eisteddfod Genedlaerthol nesaf, a’r hwn sydd yn medru mwynhau a gwerthfawrogi yr alawon cywreiniaf, a’r dull mwyaf clasurol o’u canu, yn gosod ei fryd, gyda’r fath ofal, am ddwyn etto i arferiad yn ein cyssegroedd hen dônau cynnes a nefolaidd “amseroedd y diwygiadau;” a hyderwn y bydd i eglwysi Cymru gydymdroi o galon i’w gefnogi mewn anturaieth ag sydd yn debyg o effeithio mor ëang a pharhaol er lles i achos Cristionogaeth.

Y mae y baton aur ardderchog, a’r baton ifori modrwyog, a’r cwpanau arian, a’r organ a gafodd yn anrhegion oddi wrth y còrau cerddorol a fuont dan ei addysg, ynghyd â’r tystebau eraill a dderbyniodd, yn brofion amlwg o barch ei ddisgyblion iddo am ei lafur yn yr amser a aeth heibio. Ond er mor dderbyniol a defnyddiol y mae wedi bod, yr ydym yn hyderus mai ei ddetholiad o hen dônau a hen emynau amseroedd hyfryd y diwygiadau fydd coroniad ei wasanaeth i gân ei genedl; ac yr ydym yn hyderus y bydd i’w ddysgyblion a’i adnabyddwyr oll ei gefnogi ar unwaith mewn anturiaeth o’r fath gyfrifoldeb yn gystal a’r fath fuddiolddeb. – S. R.

Ôl-nodyn:

Marwolaeth - Blin iawn genym orfod cofnodi marwolaeth yr arweinydd poblogaidd, Mr. Levi Williams (ab Gwent), yr hyn a gymerodd le nos Sul diweddaf yn Workington. Dywedir mai o’r Cholera y bu efe farw. Mab ydoedd i’r diweddar Mr. Dd. Williams, un o ddiaconiaid parchus Jerusalem, Rhymni, ac am flynddau lawer yn Siloh, Tredegar. Bu Ab Gwent yn aelod ac yn arweinydd y côr am lawer o flynyddau yn nghapel Siloh, lle y teimlir hiraeth mawer ar ei ol. Yn herwydd marweidd-dra masnach y gwaith haiarn yn y lle hwn, tua phedair mlynedd yn ol, symudodd Levi i Workington, lle y bu farw ei anwyl briod. Un anwyl iawn gan bawb ydoedd Levi – pawb yn ei hoffi ac yn ei garu yn fawr yn y cymydogaethau hyn, ac yn ddiamheu genym ei fod yr un mor barchus ac anwyl i fyny yn ngwlad y Sais. Bu yn arweinydd Côr Undebol Tredegar am flynyddau. Claddwyd ef dydd Iau diweddaf yn Workington.

dijous, 22 de desembre del 2016

YR HENAFIAETHYDD

Rhestr hynod o ddiarhebion mewn papur newydd o Aber-dâr 
gant a deuddeg ar hugain o flynyddoedd yn ôl.  

Tarian y Gweithiwr. 11 Medi 1884.





































YR HENAFIAETHYDD
Diarebion

Yn canlyn, wele rai o nodwedd dywyll ac anneallus. A oes a ddeongla rai o honynt?

Anheu angen dyhewyn dir.
Anrhaith gyfludwyt taeog yn nhy ei gilydd.
Anwar fu felyn ei fraint.
Bychodedd minailed, alias mynialedd.
Coel can hadain.
Colles dy lad cystal i’r fuwch.
Colles dy gludwr a gyrchawdd ty gadwr.
Chweyrys gwawd o anianawd.
Da angen ar eiddiawg, fel taeawg.
Danof llwyr i gyfarwyre, fel Dangos.
Dofydd dihirwaith aros, potius Dafydd.
Ebawl ar ebawl i Dduw.
Elid ryw, ar barth pa yw.
Gorug ei waith a fach y fachdaith.
Goyaen a wêl ynghyfwng.
Gwaedlyd wrth faint dy drachywedd.
Gwasgu yr haid cyn no’i cherdded.
Gwell trw^ch nag arwynniad
Hir amod nid ä i dda, alias annod.
Mab tyfech ry pennid.
Mal un oll yn ieud Gragunan.
Mal y peilliant ymdeg.
Mûd arynaig y llafar.
Ni chymerai gogyl am ei gâr.
Ni elwir yn euog onis geirydd.
Ni asgyr a goffa trefgordd.
Nid gwr namyn gwrthmuni.





































Nid rhaid peidi yn llys arglwydd.

Nid ysgar angenawg ac anhychfryd.
O englyn ni ddaliaf haid.
Rhwy fu rhy fychod gynen.
Trengis a fremis, alias Trefwys.
Twyllid rhyfegid rhyfygiad. 

Dyma rai eto o nodwedd fyr:-
Cnoi awel.
Hael byrllofig.
Hiroed anniolch.
Hir lyngeswriaeth.
Iro blonhegen.
Llewid cywestach.
Llidiog lliosog.
Meithrin chwilerion.
Rhuthr mammaeth.
Rhygas rhywelir.
Addef yw tewi.
Addfed angeu i hen.
Abl i bawb ei gydradd.
Bid rydlyd dy arfau.
Bore i bawb pan goto.
Canu heb gywydd.
Can gwynted â’r gwynt.
Ceised pawb ddwfr i’w long.
Chwil gan nos.



Chwanog annoeth i ymliw.
Chwareu hen gi â chenau.
Dadleu gwedi barn.
Da daint rhag tafawd.
Dall yn barnu ar liwiau.
Echwyn yw nâg.
Edwyn hengath lefrith.
Eang yw’r byd i bawb.
Ffoi pob tlawd.
Ffordd Buallt i Henffordd.
Ffawd pawb yn ei dâl.
Gair gwraig gwneler.
Gwnawd ar eiddil ofalon.
Goreu canwyll pwyll i ddyn.
Harrd pob newdydd.
Haeddu anerch yw caru.
Hiraeth am farw ni weryd.
Iawn chwedlawg mab.
Iawn yn ymofyn meddyg.
Iro tin hwch â bloneg.
Llanw mewn llu.
Llaw lluaws ar waith.
Llawer gwir drwg ei ddywedyd.
Mal dyrnod pen.
Melus bys pan losgo.
Mynych y daw drwg fugail.
Neuadd pob diddos.
Nac ymddiried i estron.



Na wreica ond yn agos.
Odid difrio diwyd.
O daw ymenyn doed.
O’r badell ffrio i’r tân.
Pryn tra flingych.
Pryn hen pryn eilwaith.
Pawb a gâr eu gwala.
Rhygas pob rhywir.
Rhy dyn a dyr.
Rhag angau ni thycia ffo.
Swrth pob diog.
Sychu trwyn y swch.
Sef a ladd a gyhudd.
Teg pob hardd.
Temyl glwth ei gegin.
Tafawd aur yn mhen dedwydd.
Uchenaid at ddoeth.
Utgorn yw cwrw da.
Un geiniog a ddyly cant.
Wythnos y llwynog.
Wyneb llawen, llawn ei dy.
Y bendro wibwrn.
Yspys pawb pan ddarfo.
Ymguddio ar gefn y gist.

TWYN-STAR

(Addasiad o sylw a ddodwyd gennyf ar y fforwm Enwau Lleoedd)

Wrth geisio dyfalu ym mha le yn Nhredegar y mae ‘Y Twyn’ penderfynais taw Twyn-star y dylai fod – hynny yw, os rhan o etholaeth Sir Frycheiniog bu Duketown ar un adeg. 



Bûm yn chwilio am ryw lun o Dwyn-star (Tredegar) fel y mae heddiw a chefais hyd i beth rhyfedd yno – arwydd heol dwyieithog lle mae’n ymddangos bod yr enw Cymraeg (ond bod gair Saesneg yn rhan ohono) wedi ei gyfieithu... i’r Gymraeg.

Yn Dukestown y mae Twyn-star / Twyn-y-star, o enw tafarn (The Star Inn) lled adnabyddus a fu yno ar un adeg. Bryncyn ac arno dafarn, felly.

Ond i bob golwg mae’r enw wedi ei ddehongli fel pe buasai’n enw Saesneg ag iddo’r ystyr ‘seren y twyn’.

Felly dyna’r enw Cymraeg o dan yr enw Saesneg ar arwydd heol ddwyieithog yn y lle hwnnw, sef ‘Seren Twyn’.



Tybed ai Twyn-star yw'r twyn dan sylw yn yr adroddiad uchod, mewn colofn yn y Darian sydd yn sôn am Dredegar? Ai'r 'Star Inn' yw 'tafarn y twmp' y cyfeirir ato yno?

Dyma lun arall o Dredegar. Nes at ganol y dre y mae arwydd dwyiethog arall ond yn anffodus, mae ‘ffordd’ wedi mynd yn ‘fford’ arno!



Rwy wedi dod o hyd i’r ddau lun o'r dre ar y rhyngrwyd – wn i ddim a yw’r arwyddion yn dal yno. Ond maent yn haeddu sylw bach, dybiwn i.

divendres, 16 de desembre del 2016

LLYWYDD SENEDD CATALONIA CARME FORCADELL O FLAEN Y LLYS




(Adroddiad wedi ei roi ar Facebook gennyf y bore 'ma)
Y Ddraig Goch yn dangos cefnogaeth i Carme Forcadell (neu o leiaf, fi a Meic Gymro o flaen adeilad y llysty, a’m capan draig goch am fy mhen) am naw o’r gloch y bore ’ma, yn Passeig Lluís Companys, Barcelona). Yn y fideo (26 eiliad) dyma Carme’n mynd i mewn i’r adeilad.
Llywydd Senedd Catalonia yw Carme, ac mae hi’n wynebu ‘Cyfiawnder’ Gwladwriaeth Sbaen am ganiatáu trafodaeth a phleidlais yn y Senedd ar gasgliadau’r comisiwn y ‘Procés Constituent’. Comisiwn yw hwn a fu’n astudio llunio cyfansoddiad ar gyfer gweriniaeth annibynnol arfaethedig Catalonia.
Pam mae rhaid i lwydd Senedd fynd o flaen llys wedi ei chyhuddo o anufudd-dod a chamymddygiad bwriadol, a gwynebu cael eu gwahardd rhag bod yn aelod seneddol neu hyd yn oed cael ei defrydu i garchar? Y TSJC yw’r llys dan sylw (Tribunal Superior de Justícia de Catalunya / Tribiwnal Uchaf Cyfiawnder Catalonia), sef llys o farnwyr o Sbaen sydd yn gweinyddu cyfiawnder yng Nghatalonia.
Rhaid sylweddoli nad oes, i bob pwrpas, wahaniad pwerau yn bod yng ngwladwriaeth Sbaen, a’r pwerau gweithredol, deddfwriaethol a chyfreithyddol yn un, yn nwylo’r Partido Popular, sydd mewn grym ym Madrid.
A rhaid cofio mai olynwyr yr unben Franco sefydlodd y Partido Popular (neu o leiaf, yr Alianza Popular, a newidiodd ei enw nes ymlaen) sydd yn rheoli gwladwriaeth Sbaen. Mae dylanwad yr unben yn drwm ar y blaid honno, yn enwedig y syniad o’r ‘sagrada unidad de España’ (undod sanctaidd Sbaen). At hyn, fe wyddys mai dymuniad olaf yr unben Franco ar ei wely angau fu am i’r brenin, a roes yn ei le fel pennaeth y wladwriaeth, ‘amddiffyn undod sanctaidd Sbaen’.
Rhaid ychwnaegu fod y PSOE (Partido Socialista Obrero Español / Plaid Sosialaidd y Gweithiwr Sbaenaidd) a’u plaid ranbarthol yng Nghatalonia (Plaid Sosialaidd Catalonia) yn gant y cant o blaid y Partido Popular yn mynnu dwyn gwleiddyddion sy’n cefnogi annibyniaeth o flaen eu ‘gwell’.
Mae Senedd Catalonia am gynnal refferendwm ‘swyddogol’ (hynny yw, wedi ei drefnu ar ôl dod i gytundeb â llywodraeth Madrid) a chyfrwymol ar y fater, ond mae Madrid yn ddi-ildio ac yn gwrthod y syniad yn llwyr.
Un ffordd o ddistewi llais y werin, yn nhyb llywodraeth Sbaen, yw trwy ddwyn achos o drosedd yn erbyn gwleiddyddion sydd yn cefnogi annibyniaeth i Gatalonia, a gyrru ofn felly ar y mudiad dros annibyniaeth.

dijous, 8 de desembre del 2016

GLENDOWER

(Addasiad o ysgrif a roddais ar y fforwm ‘Enwau Lleoedd’)
Yn lle paratoi rhyw ddeunydd ar gyfer fy ngwaith y pnawn yma, euthum ar gyfeiliorn wrth sylwi, ar Fapiau Google, fod yn Los Angeles, California, heol o’r enw Glendower Avenue.
A dyma fi’n dechrau chwilio am ragor o enghreifftiau.
Mae’r enw Glyn Dŵr / Glyndŵr*, ar ei wedd Saesneg Glendower / Glendowr, i’w weld mewn sawl gwlad, yn aml mewn mannau lle y bu Cymry alltud yn byw ar un adeg.
*Glyn Dŵr yn ôl Geiriadur yr Academi; Glyndŵr (llai cywir?) gan amlaf.

Mae’r rhan fwyaf o’r enwau hyn, tybiwn, yn cyfeirio yn uniongyrchol at Owain Glyn Dŵr fel emblem y Cymry, i goffáu’n harwr cenedlaethol, ond mae’n bosibl hefyd fod yr enw yn gyfeiriad anuniongyrchol mewn rhai o’r enwau (enw llong hwyrach; neu’r Glendower sydd yn gymeriad yn nrama Henry IV, Part 1 gan Shakespeare; enw ‘persain’ heb iddo gynnwys hanesyddol neu genedlaethol; enw bedydd neu enw barddol rhyw unigolyn; o ‘Glendower’ oedd yn enw tŷ neu ardal yn wreiddiol; ayyb. Er enghraifft, daw’r heolydd yn British Columbia yn y rhestr isod o’r mynydd Mount Glendower yn yr un dalaith o bosibl; ac o enw llong y daw enw’r greigres yn Queenland, Awstralia?)
Nid yw’r ffurf Gymraeg i’w gweld ar wahân i enwau yng Nghymru ei hun.
Cymru 
Glendower Place (??Maes Glyndŵr) Hanmer, Wrecsam
Glendower Buildings (??Tai Glyndŵr), Stryd yr Eglwys, Llansanffraid Glan Conwy
Glyndwr Street (??Stryd Glyndŵr), Dolgellau 
Glyndwr, Cnwclas
Glyndwr Road (??Ffordd Glyndŵr), Aberyswyth
Glendower Buildings (??Tai Glyndŵr), Dinbych y Pysgod
Glendower Street (?? Heol Glyndŵr), Dowlais, Merthyr Tudful 
Glendower Close (??Clos Glyndŵr) Bracla
Glyn-dwr Avenue (??Coedlan Glyndŵr), Pont-y-pridd
Glendower Court (??Llys Glyndŵr), Heol y Felindre, Yr Eglwysnewydd, Caerdydd
Glyndwr Road (??Heol Glyndŵr), Cwm-brân
Glendower Street (??Heol Glyndŵr), Trefynwy 

(Llwybr Glyndŵr / Glyndŵr’s Way, Llandrindod, Llanidloes, Treyclo, ayyb)

Heol Glyndwr (??Glyndŵr), Coed-poeth
Ffordd Glyndwr (??Glyndŵr), Northop

Yr Alban 

Glendower Way, Pàislig / Paisla / Paisley, Yr Alban

Iwerddon 
Glendower Street, Béal Feirste / Belfast
Glendower Court, Baile an Chollaigh / Ballincolig, Contae Chorcaigh / County Cork

Lloegr 
Glendower Avenue, North Shields
Glendower Street, Bootle, Lerpwl 
Glendower Road, Waterloo, Lerpwl
Glendower Drive, Cheetham, Manceinion
Glendower Park (enw ar heol), Adel, Leeds 
Glendower Road, Perry Barr, Birmingham 
Glendower Road, Walsall
Glendower Close, Gnosall, Stafford
Glendower Approach, Heathcote, Warwickshire

Glendower Avenue, Coventry 
Glendower Close, Daventry
Glendower Road, Llanllieni / Leominster, Swydd Amwythig 
Glendower Court, Greenfields, Amwythig / Shrewsbury 
Glendower Close, Churchdown, Caerloyw / Gloucester
Glendower Road, Mortlake, Llundain
Glendower Gardens, Mortlake, Llundain
Glendower Place, South Kensington, Llundain (Glendower Mansions, Glendower Preparatory School)
Glendower Road, East Sheen, Llundain 
Glendower Crescent, Orpington, Surrey
Glendower Road, Peverell, Plymouth

Unol Daleithiau America
Glendower Street, Ashland, Oregon
Glendower Avenue, Los Angeles
Glendower Place, Los Angeles
Glendower Road, Los Angeles
Glendower Stairs, Los Angeles
Glendower Plantation, Ashville, Florida 
Glendower Court, Jacksonville, Florida
Glendower Circle, Sun City Center, Florida 
Glendower Lane, Plano, Texas
Glendower Drive, Fairfax Village, Spring, Texas

Glendower Drive, Louisville, Kentucky
Glendower Place, Franklin, Tennessee
Glendower Court, Nashville, Tennessee
Glendower Court, Goodlettsville, Tennessee
Glendower Way, Knoxville, Tennessee

Glendower Cove, Cordova, Tennessee
(enw ar adeilad) The Glendower Building,
3630 N Meridian St, Indianapolis, Indiana
Glendower Way, Roswell, Georgia
Glendower Drive, Kirkwood, Missouri
Glendower Terrace, Elgin, Illinois
Glendower Place, Whitewater Township, Hanilton County, Ohio
Glendower Avenue, Columbus, Ohio
Glendower Street, Mapleton, Pennsylvania
Glendower Drive, Lancaster, Pennsylvania 
Glendower Road, Hamden. Connecticut
Glendower Road, Boston, Massachusetts 
Glendower Road, Roslindale, Massachusetts
Glendower Road, Melrose, Massachusetts
Glendower Circle, Pittsville, New York 
Glendower Way, Victor, New York
Glendower Drive, Salisbury, North Carolina
Glendower Road, Raleigh, North Carolina
Glendower Court, Springfield, Virginia 
Glendower Court, Ashburn, Virginia
Glendower Road, Midlothian, Virginia 
East / West Glen Dower Drive, Fredericksburg, Virginia
Glendower Road, Scotsville, Virginia 
Glendower Road, Natural Bridge, Virginia (yn y llun isod)

Glendower Court, Laurel, Maryland
Glendower Road, Gaithersburg, Maryland

(enw tŷ ) Glendower: (wedi ei drosi o’r wicipedia Saesneg): 
Tŷ hanesyddol yn arddull y Diwygiad Groegaidd yw Glendower, a elwir bellach yn Gofadail Daleithiol Glendower (Glendower State Memorial) neu Blasty Glendower (Glendower Mansion), ac wedi ei leoli yn 105 Coedlan Cincinnati (Cincinnati Avenue), Ffordd U.D.A 42 (U.S. Route 42), yn Lebanon , Ohio. Fe'i hadeiladwyd yn 1836 gan Amos Bennett ar gyfer John Milton Williams, masnachwr o Lebanon, ac fe’i henwyd ar ôl Owain Glyndŵr (Owen Glendower). Mae wedi’i ddisgrifio yn "un o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth yr Adfywiad Groegaidd yn y Gorllewin Canol”. Ar 10 Tachwedd, 1970, fe’i hychwanegwyd at y Gofrestr Genedlaethol o Leoedd Hanesyddol. Defnyddir yn aml dir Glendower gan ailgrewyr brwydrau’r Rhyfel Cartref.

Canada 
Glendower, Ontario, Canada (enw ardal ar bwys Gidfrey; enw gynt ar fwynglawdd)
Glendower Circuit, Scarborough, Ontario
Glendower Crescent, Georgina. Ontario
Glendowr [sic] Street, Sudbury, Ontario 
Glendower Road, Victoria, British Columbia, Canada
Glendower Drive, Richmond, British Columbia, Canada
Glendower Gate, Richmond, British Columbia, Canada
Mount Glendower, British Columbia



De Affrica 
(enw ar fynydd)
Glendower Peak, Port Alfred, Province of Eastern Cape

Glendower Drive, Pretoriuspark, Pretoria
Glendower, Dennemere, Cape Town 
Glendower Close, Sunningdale, Cape Town

Glendower Avenue, Dunvegan, Edenvale, Johannesburg (wrth ochr maes golff y Glendower Golf Club; mae'r maes mewn ardal o Edenvale o’r enw Dowerglen, sef elfennau Glendower o chwith mae’n debyg) 

Seland Newydd
Glendower ‘darn o dir yn Ponatahi, i’r de o Carterton’ gynt

Awstralia
(enw ar greigres) Glendower Point Reef, Queensland

(enw ar nant) Glendower Creek, Pinbeyan, New South Wales 

(enw ar fynydd) Glendower Mountain, Mulla Creek, New South Wales

(enw ar lwybr) Glendower Trail, Walcha, New South Wales 

(enw ar ffermdy) New Glendower, Queensland

(enw ar dŷ) Glendower, 5 Lloyds Road, Bathurst, Gormans Hill, New South Wales (Tŷ Eidalaidd Fictoraidd Diweddar)

(enw ar dŷ) Glendower, Burgmann’s Lane, Hillvue, New South Wales

Glendower Road, Holtze, Northern Territory
Glendower Street, Sunnybank, Brisbane, Queensland
Glendower Street, Mount Lofty, Queensland 
Glendower Close, Armidale, New South Wales
Glendower Street, Rivermeadow, New South Wales
Glendower Street, Gilead, New South Wales
Glendower Avenue, Eastwood, New South Wales 
Glendower Court, Mooroolbark, Victoria
Glendower Street, Perth, Western Australia 
Glendower Way, Spearwood, Western Australia
Glendower Road, Southern Cross, Western Australia
Glendower Road, Carrolup, Western Australia

Sri Lanka
Hotel Glendower, Nuwara Eliya, Central Province



(lluniau gan Google)