dimarts, 29 de novembre del 2016

Llanfadog, Penrhyn Gw:yr



(Nodyn bach anfonais i at y Fforwm ‘Enwau Lleoedd’ 29 Tachwedd 2016)

Newydd gywiro dau dudalen Saesneg o'r wicipedia – un am bentrefi Penrhyn Gw:yr lle y mynnid mai o ‘Médoc’ yn 'Ffrainc' y daw’r enw ‘Llanmadoc’ (sef Llanfadog) – yn y testun gwreiddol, dywedid mai'r esboniad ‘most likely’ oedd hwn!

Mae'r awdur yn meddwl mai enw ‘Ffrangeg’ yw Médoc, heb sylweddoli taw enw Ocsitaneg yw mewn gwirionedd (Medòc), ac mai ffurfiau lled wahanol a fyddai i’r enw gynt (mae’n debyg *Medouc < *Medolc).

Mae’r ffaith bod yno yn y cylch dywyn o’r enw ‘Landes de Medòc’ (o’r Ocsitaneg Landas de Medòc = Tywyn Medòc) wedi argyhoeddi’r awdur mai enw ‘Ffrangeg’ yw ‘Llanmadoc’! Ac i brofi’r tarddiad i’r carn: ‘Haplogroup R1b (Y-DNA) is consistent with the regions of Llanmadoc, Wales and Médoc, Bordeaux, France’.

Yr ail oedd tudalen ‘Madoc, Ontario’. Mae awdur hwn yn awgrymu bod y pentref hwnnw wedi ei enwi ar ôl Madog ab Owain Gwynedd (ond nid oes tystiolaeth ar gael ar hyn o bryd i'w gadarnhau).

Yna mae’n awgrymu damcaniaeth arall (nid oes cyfeiriad at yr un ffynhonnell, ac y mae’n ddi-sail, heb os nac onibai) - mai o ‘Llanmadoc’ ym Mhenrhyn Gw:yr y daw’r enw, ac wedyn yn ailadrodd y syniad a fu ar dudalen ‘List of Villages in Gower’ – ei fod yn ei dro yn seiliedig ar ‘Landes de Mèdòc’!

Bydd yn ddiddorol gweld a fydd yr haeriad mai enw Ffrangeg yw ‘Llanmadoc’ yn dechrau lledaenu, diolch i wicipedia!