dimecres, 18 d’abril del 2012

Dim byd o bwys - edrych ar ystadegau fy nhudalen youtube


Edrych heno ar dudalen ystadegau y sianel fideos sydd gennyf ar youtube.

Mae’r tudalen yn f’atgoffa imi ddodi’r fideo cyntaf ar y wefan ar yr wythfed ar hugain o fis Ionawr 2007. Mor bell yn ôl y bu? Synnu gweld y mae gennyf yno ryw 306 o fideos erbyn hyn.

Ond nid fideos go iawn mohonynt - rhibidires o ffotos yn hytrach. Bu gennyf le i roi lluniau ar Picasa ond cyn pen dim o amser yr oedd y lle wedi ei lyncu i gyd. Ar ôl peth crafu pen, penderfynais wneud arbrawf gyda Windows Movie Maker a rhoi’r lluniau ar ffurf fideo ar youtube.

Edrychais wedyn ar y deg uchaf o’r fideos - y rhai y gwelwyd fwyaf arnynt yn ystod y saith niwrnod diwethaf, a cheisio dyfalu pam. 

1. 09-04-2012. 1/2. Canovelles. XXII Cursa. 38
2. 09-04-2012. 2/2. Canovelles. XXII Cursa. 27

Tri-deg wyth a saith ar hugain o bobl wedi galw cael cipolwg. Rhan un a dau o fideo o ras a wneuthum ychydig dros wythnos yn ôl, mewn pentref ar bwys Granollers. Dodais i ddolen gyswllt ar wefan ar gyfer athletwyr - corredors.cat - a gweld bod y rhan fwyaf o’r ‘gynulleidfa’ wedi dod o’r cyfeiriad hwnnw.

3. 08-01-2011. Big Rock (Illinois) 2/2. Mynwent y Cymry. 24
Yn ystod yr wythnos hon mae 24 o bobl yn yr Unol Daleithau wedi edrych ar fideo o gerrig beddau’r Cymry yn y pentref hwnnw yn Illinois, heb fod ymhell o Chicago. Braidd yn anesboniadwy. Rhywun yn rhywle wedi sôn amdano ar Facebook, yn ôl y tudalen ystadegau, am ryw reswm.

4. 23-04-2011. Torroella de Montgrí. 1/2. Montgrí'ndependència. 22.
Dau ar hugain wedi edrych ar ran un o ddau fideo o ras a gynhaliwyd y llynedd yn Torroella, ras wedi eu threfnu gan y Pwyllgor dros Annibyniaeth i Gatalonia. Y rheswm - bydd ail ras eleni, yn cael ei chynnal y penwythnos hwn, a mae rhywun wedi rhoi dolen-gyswllt ar gyfer y fideo ar wefan y Pwyllgor.

5. 01-04-2012. 1/2. Els Hostalets de Balenyà. 17
Y fideo hwn ar y wefan redwyr hefyd. Dim ond ryw wythnos ers i mi ddodi’r fideo ar youtube ar ôl hala rhai diwrnodau yn trefnu’r lluniau. Rhai oedd wedi cymeryd rhan yn y ras yn edrych arno, yn debyg iawn.

6.23-04-2011. Torroella de Montgrí. 2/2. Montgrí'ndependència. 11
Rhai oedd heb ddanto ar ôl gweld lluniau'r rhan gyntaf wedi mynd ymlaen at yr ail ran.

7.03-04-2011. Barcelona. Cursa del Corte Inglés. 8
Y penwythnos hwn bu ras El Corte Inglés yn Barcelona, ras sydd yn rhad ac am ddim. 65,000 (!) wedi cymeryd rhan eleni. Ond er ei bod ar stepen drws imi fel petai, a minnau fel arfer yn ei rhedeg bob blwyddyn, eleni euthum i lawr i Tarragona i Ras Pont y Gw^r Drwg (el Pont del Diable yw’r enw ar lafar ar y ddyfrbont Rufeinaidd yn y dref honno).

Rhai felly a fu’n chwilio am luniau ras ddydd Sul diwethaf, buaswn yn meddwl, a chael hyd i luniau ras y llynedd.

Mae’r rhedwyr a’r cerddwyr yn mynd o Plaça de Catalunya hyd at y Stadiwm Olumpaidd ar Fryn Montjuïc, ac yno y mae’r dorf enfawr yn ymwthio i mewn i wneud tro ar y trac Olumpaidd (400 medr) cyn ymwasgu trwy’r allanfa i’r tu allan unwaith eto i ddal ar eu hynt tua’r llinell derfyn, yn ôl yn Plaça de Catalunya, o flaen adeilad siop El Corte Inglés.



8. 29-10-2010. Barcelona. Carrer Aiguafreda, Horta. 8
Wyth o bobl wedi edrych ar luniau o hen stryd yn y rhan hon o’r ddinas lle y bu golchwragedd yn byw ac yn ennill eu bywoliaeth trwy olchi dillad y bobl gefnog mewn golchdai bach yn eu gerddi ffrynt.  

9. 31-03-2012. 1/2. Tolosa. Anem Òc! Per la lenga occitana! 5
Pump wedi edrych ar luniau o’r gwrthdystiad dros yr iaith Ocsitaneg yn nhref Tolosa (Ffrangeg: Toulouse) y bûm ynddo ychydig dros bythefnos yn ôl.

10.01-04-2012. 2/2. Els Hostalets de Balenyà. 5
Rhai dewr eto wedi mynd ymlaen i weld y llwyth o luniau yn yr ail ran.

A dyma ddiwedd ar y dadansoddiad diangen a hirwyntog hwn.

diumenge, 8 d’abril del 2012

Ras - Cursa del Roc Gros, 1 Ebrill 2012


Ar ôl y gwrthdystiad yn Tolosa ddydd Sadwrn cyraeddasom yn hwyr yn ôl ym mhrifddinas Catalonia. Bu’n ddau o’r gloch arnaf cyn cael cropian i mewn i’r gwely - a bu rhaid codi am saith i nôl y trên wyth i Els Hostalets de Balenyà, yn Swydd Osona, i gymryd rhan mewn hanner márathon mynydd (math ar Ras Eryri heb y glaw).

Ddim yn cofio llawer amdani - fel y mae rhai’n cerdded drwy eu hun, rwy’n amau imi redeg yn fy nghwsg. Ond mae rhaid fy mod wedi gwneud y ras am fod gennyf y lluniau i’w brofi. Ardderchog o le, golygfa wych o grib y mynydd dros Wastadedd Vic. Un o gadarnleoedd yr iaith Gatalaneg yw'r ardal hon (mae'r iaith   wedi diflannu i bob pwrpas ymhlith y rhan fwyaf o'r boblogaeth erbyn hyn, wrth i'r Catalaniaid ddod yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain. Ond stori arall yw honno).




Bydd ras debyg gennyf o fewn pythefnos - Hanner Márathon dros Annibyniaeth Catalonia, yn Torroella de Montgrí, yn Swydd Baix Empordà. Dyma sut y bu hi’r llynedd (dim ond ras 10km fu yn 2011).


http://www.youtube.com/watch?v=BZc4lfKwWT0 Rhan 1 - hyd at feudwyfa Santa Caterina

http://www.youtube.com/watch?v=ZSNVCXlSk3c Rhan 2 - yn ôl at y llinell gychwyn.

.


Y Ddraig Goch yn chwifio ar heolydd Tolosa, Ocsitania


(1) PONT

Ddydd Sadwrn diwethaf (31 Mawrth 2012) yr aeth aelodau o gymdeithas ‘Pont’ – Cymdeithas Efeillio Diwylliannau Cymru a Chatalonia – o Barcelona i Tolosa i gymryd rhan yn y gwrthdystiad dros yr iaith Ocsitaneg – i ymgrychu am hawliau cyflawn i siaradwyr iaith Ocsitania. 















(2) CAOC

Aethom i Tolosa fel rhan o Gymdeithas CAOC.

El Cercle d'Agermanament Occitano-Català (Cercle d'Afrairament Occitanocatalan en occità) o CAOC és una associació que vol fomentar les relacions entre les cultures occitana i catalana. Té seus a Barcelona i Tolosa.

Cylch Gefeillio Ocstania a Chatalonia (en Ocsitaneg Cercle d'Afrairament Occitanocatalan) - cymdeithas er hyrwyddo cysylltiadau rhwng diwylliannau Catalonia ac Ocstania. Mae ganddo swyddfeydd yn Barcelona a Tolosa.
















(3) FIDEO 1: Y Ddraig Goch ymhlith môr o faneri Ocsitania

Bu i’r Ddraig Goch ddyroi cychwyn ar heolydd Tolosa (fe’i hyngenir tw-LW-zo) (Ffrangeg: Toulouse) am brynháwn cyfan.















Ar gychwyn y clip fideo y mae’r gwrthdystwyr yn canu 'Se Canta', anthem answyddogol Ocsitania. Yn ôl y sôn, gwaith Gaston III Fébus (1331-1391), Iarll Fois a Bearn, yw'r gân honno. Mae ar lafar gwlad yn Ocsitania benbaladr. Fel yr aeth 'Cwm Rhondda' a ‘Chalon Lân’ yn ganeuon mabwysiedig cefnogwyr y bêl gron yng Nghymru, felly y mae ‘Se canta’ yn gân rygbi Ocsitania. Ers 2010 mae'n anthem swyddogol Clwb Rygbi Tolosa.

(Y faner yn chwifio o funud 1.34 ymlaen)
http://www.youtube.com/watch?v=r-KBBwlFQsI&feature=relmfu 

Se Canta / Os caniff

Dejós ma fenèstra / O dan fy ffenestr
I a un aucelon / Y mae aderyn bach
Tota la nuèch canta / Mae’n canu gydol y nos
Canta sa cançon / Yn canu ei gân

Se canta, que cante / Os caniff, gad iddo ganu
Canta pas per ieu / Nid er fy mwyn innau y mae'n canu
Canta per ma mia / I'm cariad y mae’n canu
Qu’es al luènh de ieu  / Sydd ymhell oddiwrthyf
 
(4) FIDEO 2:

Dyma ein fideo ninnau o’r gwrthdystiad i gyd (braidd yn hir - 12 munud):



(5) L'INSTITUT D’ESTUDIS OCCITANS (Bwrdd Gwybodau Ocsitanaidd)

O dan nawdd Pwyllgor (“Anem Òc”) cynhaliwyd yr orymdaith, a greuwyd gan y Sefydliad i drefnu’r gwrthdystiadau dros yr iaith  

Bu gwrthdystiadau tebyg yn cael eu cynnal ar yr un pryd yn Breizh / Llydaw, yn Euskalherria / Ngwlad y Basg (y rhan o dan reolaeth Ffrengig), yn Nghatalonia (y rhan o dan reolaeth Ffrengig), ac yn Elsass / Alsás.

Rhan o wefan Institut d’Estudis Occitans  http://www.ieo-oc.org  wedi ei throsi i’r Gymraeg:

La Coordinacion crida a una manifestacion (y mae’r pwyllgor yn trefnu gwrthdystiad) lo 31 de març de 2012 (ar yr unfed ar ddeg ar hugain o fis Mawrth 2012) que serà la seguida d’aquelei (a fydd yn dilyn) de 2005, 2007 e 2009 (rhai’r blynyddau 2005, 2007 a 2009) onte sigueriam de miliers (lle y byddwn wrth ein miloedd) per dire "Anem òc ! Per la lenga occitana !" (er mwyn dweud - Awn ni, Òc! Dros yr iaith Ocsitaneg)

La Manifestacion se farà a Tolosa (Cynhelir y gwrthdystiad yn Tolosa).
Aqueu 31 de mars de 2012 serà (Bydd yr 31 Mawrth hwnnw) una granda jornada au nivèu nacionau (yn ddiwrnod mawr ar raddfa genedlaethol) per totei lei lengas dichas regionalas (ar gyfer yr holl ieithoedd ‘rhanbarthol’, fel y’u gelwir) que vòlon una Lèi (sydd am gael Deddf).

Ja lei Bretons, Bascos, Catalans e Alsacians son partents (Bydd y Llydawiaid, y Basgiaid, y Catalaniaid a’r Alsasiaid yn cymeryd rhan) faràn una manifestacion (yn cynnal gwrthdystiad) dins sa region (yn eu rhanbarthau eu hunain) lo meteis jorn (yr un diwrnod).
















(6) FIDEO ARALL
Yn y fan hyn y mae fideo arall am y gwrthdystiad, a hwnnw yn yr iaith Ocsitaneg


Mae’n debyg taw rhai sydd wedi dysgu’r iaith yw’r rhan fwyaf o’r siaradwyr- fel arfer fe'u hadnabyddir am bod yr ‘r’ Ffrangeg ganddynt.Yn draddodiadol nid yw’n rhan o sustem seinyddol yr iaith (er iddi ddechrau, yn ôl y sôn, treiddio i lafar trigolion Provença ychydig dros ganrif yn ôl). Math ar ‘r Gymraeg’ oedd ganddynt gynt - yn wir, peth hynod i’r Ffrancwyr oedd y ffaith bod yr Ocsitaniaid yn methu ynganu’r ‘r Ffrangeg’ wrth siarad iaith y wladwriaeth, yr iaith Ffrangeg.  

Er i rai adroddiadau sôn am 30,000 o wrthdystwyr, rwy’n amau ein bod yn rhyw 10,000 ar y gorau.

(7) AC UN ARALL ETO
A dyma Se Canta unwaith eto yn y gwrthdystiad: