dimarts, 24 de juliol del 2012


Cyfweliad fu yma ddoe yng Nghatalonia ym mhapur newydd El Punt / Avui (23 Gorffennaf 2012).
Yr wyf wedi ychwanegu ambell sylw.


SARA MEDI JONES  INDEPENDENTISTA GAL·LESA ASSESSORA AL PARLAMENT EUROPEU
SARA MEDI JONES: ANNIBYNIAETHWRAIG O GYMRAES AC YMGYNGHORYDD YN SENEDD EWROP


































PREGUNTA
6 de març del 2009. En un col·loqui amb treballadors de les institucions europees, Sara Medi Jones va fer la inesperada pregunta a Hillary Clinton, que va evitar mullar-se. L'endemà milers de persones es manifestaven a Brussel·les per l'Estat català.

CWESTIWN
6 Mawrth 2009. Mewn trafodaeth â gweithwyr y sefydliadau Ewropeaidd, gofynnodd Medi Sara Jones gwestiwn annisgwyl i Hillary Clinton, a osgôdd ei ateb yn ddiflewyn ar dafod..Y diwrnod wedyn bu miloedd o bobl ym gorymdeithio ym Mrwsel dros gael gwladwriaeth Gatalanaidd.

Catalunya podria ser independent el 2016

Gallai Catalonia fod yn annibynnol yn 2016


23/07/12 02:00 - Brwsel - Albert Segura

Foto: Sara Medi Jones amb una bandera de Gal·les al Parlament europeu
Llun: Sara Medi Jones â baner Cymru yn Senedd Ewrop

Assessora de la presidenta del Plaid Cymru independentista gal·lès a l'eurocambra, Sara Medi Jones va arrencar el 2009 a Hillary Clinton el compromís que els Estats Units no interferiran si Catalunya, Escòcia o Gal·les s'independitzen.

Ymgynghorydd yn Senedd Ewrop i Lywydd Plaid Cymru, plaid sydd yn sefyll dros annibyniaeth i Gymru, yw Sara Jones. Yn 2009 cafodd i Hillary Clinton ymrwymo na fyddai’r Unol Daleithau yn ymyrryd pe buasai Catalonia, yr Alban neu Gymru yn datgan eu hannibyniaeth.
.
“No interferiré en els afers interns de cap estat europeu”, li va respondre Clinton...
"Ni fyddaf yn ymyrryd ym materion mewnol unrhyw wladwriaeth Ewropeaidd," atebodd Clinton ...

Potser només se'm volia treure de sobre i era un no comment elegant. Però ho interpreto com el fet que els EUA no s'oposaran a la independència i això tranquil·litza molt els nostres electors. Ni Washington ni Brussel·les no permetran cap tipus de violència i Espanya seria molt estúpida si tornés a fer-la servir, perquè l'opinió pública internacional s'implicaria a fons a favor de Catalunya. No us podran aturar, no heu de tenir por.

“Ceisio cael gwared arnaf yr oedd efallai, ond ‘dim sylw’ ceinwych fu hwnnw. Ond yr wyf yn ei ystyried yn ddatganiad na fyddai yr Unol Daleithau yn wrthwynebus i annibyniaeth ac mae hynny yn galonogol iawn i'n hetholwyr ni. Ni fydd na Washington na Brwsel yn caniatáu yr un fath o drais, a byddai Sbaen yn hurt pe defnyddiai drais unwaith yn rhagor, am y byddai y cyhoedd mewn gwledydd eraill yn gadarn o blaid Catalonia. Ni allant eich stopio, ni ddylech fod arnoch ofn.”

L'expulsió de la UE i de l'euro és només un espantall?
Dim ond codi bwganod yw dweud y bydd Catalonia yn cael ei diarddel o’r Undeb Ewropeaidd ac o’r ewro?

A Brussel·les ningú no us voldrà fer fora, sou un país ric que ja compleix tots els requisits per ser-ne membre. No serà cap procés llarg i feixuc: quan el mur de Berlín va caure, els canvis a l'Alemanya de l'Est van ser molt ràpids. I passarà el mateix amb l'ampliació interior de la UE. Un efecte dominó.

Ym Mrwsel nid oes neb am eich gyrru allan, gwlad gyfoethog ych chi sydd eisoes yn bodloni'r holl ofynion ar gyfer aelodaeth. Ni fydd yn broses hir a beichus - pan syrthiodd Mur Berlin, bu’r newidiadau yn Nwyrain yr Almaen yn gyflym dros ben. A bydd yr un peth yn digwydd gydag ehangu mewnol yr UE. Effaith dómino fydd.

Qui guanyarà la cursa, qui s'independitzarà primer?
Pwy fydd yn ennill y ras, pwy gaiff gyntaf ei hannibyniaeth?

Els gal·lesos us portem alguns anys de retard, però també ens arribarà el dia, així que ajudem-nos els uns als altres. El més realista és pensar que Escòcia serà la primera, perquè el referèndum ja està convocat, el 2014, i si guanya el sí no crec que Catalunya pugui anar més ràpid. Cal fer les coses ben fetes: la consulta i tot el procés legislatiu han de ser impecables perquè ni Brussel·les ni ningú no pugui qüestionar-ne la legitimitat democràtica. Catalunya podria ser independent el 2016.

Mae Cymru rai blynyddoedd ar ei hôl hi, ond daw ein dydd ninnau hefyd. Yr ŷm yn cynorthwyo ein gilydd felly. Mae’n fwy realistig meddwl taw yr Alban fydd y gyntaf, gan fod y refferendwm wedi ei alw yn barod ar gyfer y flywddyn 2014, ac os enilliff yr “Ie” nid wyf yn meddwl y gall Catalonia fynd yn gyflymach na hwy. Rhaid gwneud pethau'n iawn a rhaid i’r pleidleisio a'r holl broses ddeddfwriaethol fod yn hollol gywir oherwydd ni all Mrwsel na neb arall fwrw amheuaeth ar ei ddilysrwydd. Gallai Catalonia fod yn annibynnol yn 2016.

I si guanya el no?
Ac os enilliff y ‘Na’?

No ens rendirem. Els gal·lesos ja vam perdre un referèndum per recuperar el nostre Parlament als anys setanta, però el 1999 ho vam tornar a intentar i vam guanyar. I l'any passat el sí va arrasar en una altra consulta per dotar-lo de capacitat legislativa total. Només el 10% dels gal·lesos som independentistes, però és esperançador que el 70% vulguin més competències. La llengua s'estava morint fa 30 anys, ens en vam adonar a temps i ara cada cop la parla més gent.

Fyddwn ni ddim yn plygu i’r drefn. Fe collom ni’r Cymry refferendwm i adfer ein Senedd yn y saithdegau, ond yn 1999 cynigiasom unwaith eto, ac ennill a wnaethom. A’r llynedd enillodd o bell mewn pleidlais arall i roi iddi bwerau deddfu llawn. Dim ond 10% o’r Cymry sydd yn annibyniaethwyr, ond mae'n galonogol bod 70% yn ymofyn mwy o rym. Bu’r iaith yn marw 30 mlynedd yn ôl, sylweddolasom mewn pryd a bellach mae mwyfwy o bobl yn ei siarad.

Què li sembla la iniciativa d'El Punt Avui?
Beth ych chi'n meddwl am fenter newydd* newyddiadur El Punt-Avui?*

[*Yr unig newyddiadur cenedlaethol yn Gatalaneg fu’r ‘Avui’ (Heddiw), a sefydlwyd yn 1979, a dros y blynyddoedd bu yn gyffredinol yn cefnogi’r blaid ‘wladgarol’ Convergència i Unió (CiU), clymblaid y dde-ganol sydd yn gwrthwynebu annibyniaeth i Gatalonia.

Rhwydwaith o bapurau newydd rhanbarthol fu El Punt; pan aeth yr Avui yn fethiant ariannol, fe’i prynwyd gan cwmni El Punt ac fe roed y ddau at ei gilydd yn 2011. Ar ddechrau mis Gorffennaf datganodd na fyddai ei safbwynt yn amwys fel o’r blaen, a’i fod wedi penderfynnu ymgyrchu dros annibyniaeth i’r genedl. Er bod, yn ôl pôl piniwn diweddar, 51% o drigolion Catalonia yn dymuno cael annibyniaeth, mae gweddill y wasg Gatalanaidd, ar wahân i ambell newyddiadur lleol, yn gwrthwynebu ymadael â Sbaen]

És meravellós que la societat civil i un diari es posin al capdavant i pressionin el govern i els partits, increïble, a Gal·les no tenim res de semblant. Us envejo perquè podeu votar més d'un partit independentista, triar dreta o esquerra, i nosaltres només tenim el Plaid Cymru. Però he de dir que als catalans us obsessiona repetir com de diferents sou dels espanyols, tot i que les similituds amb els andalusos o madrilenys són òbvies. S'ha de ser realista: jo reconec que tinc moltes coses en comú amb els anglesos i el fet de tenir humor britànic no em fa sentir menys gal·lesa.

Mae'n wych bod y cyhoedd a phapur newydd [dyddiol] yn achub y blaen ac yn rhoi pwysau ar y llywodraeth a’r pleidiau gwleidyddol*.

 [*Etifeddiaeth degawdau o unbennaeth Ffasgaidd efallai, a’r sustem ‘rhestr’ a ddefnyddir mewn etholiadau. Nid yw’r etholwyr yn disgwyl i’r gwleidyddion weithio dros yr etholwyr. I blaid y mae’r etholwyr yn pleidleisio, ac nid oes modd cael gwared o’r gwleidyddion sydd yn herwgipio’r blaid wedyn at eu dibenion eu hunain, ac sydd yn anwybyddu addewidion y maniffesto. Mae’r etholwyr wedyn yn trefnu protestiadau a gwrthdystiadau i ofyn i’w gwleidyddion wneud y gwaith y dylent ei gwneud]

Mae’n beth hynod - yng Nghymru nid oes gennym y fath beth. Yr wyf yn lled eiddigeddus am y gallwch bleidleisio i fwy nag un blaid annibyniaethol, a dewis naill ai’r chwith neu’r dde; Plaid Cymru yn unig sydd gennym ninnau.*

[*Nid yw’n hollol gywir. Plaid ranbarthol yn y bôn yw’r blaid dde-ganol CiU. O bryd i’w gilydd, i chwarae i’r gáleri a boddháu eu hetholwyr, y maent yn mynnu taw cenedl yw Catalonia - peth na all llywodraeth Sbaen ei dderbyn. Efallai fod mwyafrif eu pleidleiswyr o blaid annibyniaeth erbyn hyn, ond nid yw CiU wedi newid ei bólisi o fod yn fodlon aros fel rhanbarth o Sbaen ac ambell hawl arbennig].

Ond rhaid i mi ddweud y bydd y Catalaniaid yn dweud byth a hefyd hyd at syrffed mor wahanol yr ych o’ch cymharu â’r Sbaenwyr, er bod y tebygrwydd rhyngoch a phobl Andaliwsia neu Madrid yn amlwg.*

[*Peth ansicr yw hyn yn y fy marn i - mae’r gwahaniaeth yn un amlwg, yn y lle cyntaf am fod y Catalaniaid yn siarad eu hiaith eu hun. Efallai bod trigolion Catalonia yn ymddangos yn Sbaenwyr i lawer o’r tu allan am mai Sbaenwyr yw’r mwyafrif yma erbyn hyn - ar ôl y ddau fewnlifiad enfawr , y cyntaf o gyfeiriad Deheubarth Sbaen yn y chwedegau a’r saithdegau, a’r ail o ben baladr byd, ond yn enwedig o Dde América a Moroco, o ryw 1995 ymlaen, dim ond ryw drydedd ran o’r boblogaeth yw’r Cataloniaid yn eu gwlad eu hun.

Mae’r ffaith bod 51% o blaid annibyniaeth yn hynod - ond yn sicr iawn ysgogiadau economaidd sydd gan y mewnfudwyr a’u disgynyddion sydd yn cefnogi annibyniaeth, yn hytrach na dymuno achub yr iaith Gatalaneg, sydd yn prysur farw, a geir fel rheswm cryf dros annibyniaeth ymhlith y brodorion. Mae pólisi ‘tir llosg’ llywodaeth Sbaen, hynny yw i adael Catalonia yn rhanbarth mor dlawd fel na fydd annibyniaeth yn opsiwn yn y pen-draw, wedi effeithio hefyd ar y mewnfudwyr o Sbaen, sydd i fod yn bumed golofn o fewn y wlad yn ôl cynlluniau Franco yn y chwedegau.]

Rhaid fod yn realistig. Yr wyf yn cyfaddef bod gennyf lawer yn gyffredin ac nid yw’r ffaith fod gennyf synnwyr digrifwch Prydeinig yn gwneud i mi deimlo'n llai o Gymraes.

Pels gal·lesos som espanyols?
Sbaenwyr ŷn ni o safbwynt y Cymry?

Si canviéssiu el nom del Barça per Catalunya FC podríeu tenir estat propi demà, això us permetria que a l'estranger la gent del carrer no us associés a Espanya, les caceres a Botswana i el desastre dels bancs. Molts catalans heu de dir que sou de Barcelona, tot i no ser-ne, perquè us posin al mapa. Jo vagi on vagi del món no he d'explicar què és Gal·les gràcies a l'equip de rugbi.

Dim ond i chi newid enw Barça a’i alw yn “Glwb Pêl-droed Catalonia” fe fyddai gennych eich gwladwriaeth eich hunain yfory nesaf. Yn y modd hwnnw ni fydd pobl mewn gwledydd eraill yn eich cysylltu â Sbaen, â helféydd yn Botswana*

[*cafodd brenin Sbaen ddamwain yn Botswana ym mis Ebrill eleni a daeth i’r amlwg ei fod wedi teithio yno i saethu eliffantod â’i gariad, dan adael ei wraig gartref yn eu palas]

a thrychineb y banciau. Mae rhaid i lawer o Gatalaniaid ddweud taw rhai o Barcelona ŷnt, er nad ŷnt yn byw yno, i gael eu lleoli ar y map. Ar y llaw arall, i le bynnag yr wyf innau yn teithio nid oes rhaid i mi esbonio beth yw Cymru, diolch i’n tîm rygbi ni.


dimecres, 18 d’abril del 2012

Dim byd o bwys - edrych ar ystadegau fy nhudalen youtube


Edrych heno ar dudalen ystadegau y sianel fideos sydd gennyf ar youtube.

Mae’r tudalen yn f’atgoffa imi ddodi’r fideo cyntaf ar y wefan ar yr wythfed ar hugain o fis Ionawr 2007. Mor bell yn ôl y bu? Synnu gweld y mae gennyf yno ryw 306 o fideos erbyn hyn.

Ond nid fideos go iawn mohonynt - rhibidires o ffotos yn hytrach. Bu gennyf le i roi lluniau ar Picasa ond cyn pen dim o amser yr oedd y lle wedi ei lyncu i gyd. Ar ôl peth crafu pen, penderfynais wneud arbrawf gyda Windows Movie Maker a rhoi’r lluniau ar ffurf fideo ar youtube.

Edrychais wedyn ar y deg uchaf o’r fideos - y rhai y gwelwyd fwyaf arnynt yn ystod y saith niwrnod diwethaf, a cheisio dyfalu pam. 

1. 09-04-2012. 1/2. Canovelles. XXII Cursa. 38
2. 09-04-2012. 2/2. Canovelles. XXII Cursa. 27

Tri-deg wyth a saith ar hugain o bobl wedi galw cael cipolwg. Rhan un a dau o fideo o ras a wneuthum ychydig dros wythnos yn ôl, mewn pentref ar bwys Granollers. Dodais i ddolen gyswllt ar wefan ar gyfer athletwyr - corredors.cat - a gweld bod y rhan fwyaf o’r ‘gynulleidfa’ wedi dod o’r cyfeiriad hwnnw.

3. 08-01-2011. Big Rock (Illinois) 2/2. Mynwent y Cymry. 24
Yn ystod yr wythnos hon mae 24 o bobl yn yr Unol Daleithau wedi edrych ar fideo o gerrig beddau’r Cymry yn y pentref hwnnw yn Illinois, heb fod ymhell o Chicago. Braidd yn anesboniadwy. Rhywun yn rhywle wedi sôn amdano ar Facebook, yn ôl y tudalen ystadegau, am ryw reswm.

4. 23-04-2011. Torroella de Montgrí. 1/2. Montgrí'ndependència. 22.
Dau ar hugain wedi edrych ar ran un o ddau fideo o ras a gynhaliwyd y llynedd yn Torroella, ras wedi eu threfnu gan y Pwyllgor dros Annibyniaeth i Gatalonia. Y rheswm - bydd ail ras eleni, yn cael ei chynnal y penwythnos hwn, a mae rhywun wedi rhoi dolen-gyswllt ar gyfer y fideo ar wefan y Pwyllgor.

5. 01-04-2012. 1/2. Els Hostalets de Balenyà. 17
Y fideo hwn ar y wefan redwyr hefyd. Dim ond ryw wythnos ers i mi ddodi’r fideo ar youtube ar ôl hala rhai diwrnodau yn trefnu’r lluniau. Rhai oedd wedi cymeryd rhan yn y ras yn edrych arno, yn debyg iawn.

6.23-04-2011. Torroella de Montgrí. 2/2. Montgrí'ndependència. 11
Rhai oedd heb ddanto ar ôl gweld lluniau'r rhan gyntaf wedi mynd ymlaen at yr ail ran.

7.03-04-2011. Barcelona. Cursa del Corte Inglés. 8
Y penwythnos hwn bu ras El Corte Inglés yn Barcelona, ras sydd yn rhad ac am ddim. 65,000 (!) wedi cymeryd rhan eleni. Ond er ei bod ar stepen drws imi fel petai, a minnau fel arfer yn ei rhedeg bob blwyddyn, eleni euthum i lawr i Tarragona i Ras Pont y Gw^r Drwg (el Pont del Diable yw’r enw ar lafar ar y ddyfrbont Rufeinaidd yn y dref honno).

Rhai felly a fu’n chwilio am luniau ras ddydd Sul diwethaf, buaswn yn meddwl, a chael hyd i luniau ras y llynedd.

Mae’r rhedwyr a’r cerddwyr yn mynd o Plaça de Catalunya hyd at y Stadiwm Olumpaidd ar Fryn Montjuïc, ac yno y mae’r dorf enfawr yn ymwthio i mewn i wneud tro ar y trac Olumpaidd (400 medr) cyn ymwasgu trwy’r allanfa i’r tu allan unwaith eto i ddal ar eu hynt tua’r llinell derfyn, yn ôl yn Plaça de Catalunya, o flaen adeilad siop El Corte Inglés.



8. 29-10-2010. Barcelona. Carrer Aiguafreda, Horta. 8
Wyth o bobl wedi edrych ar luniau o hen stryd yn y rhan hon o’r ddinas lle y bu golchwragedd yn byw ac yn ennill eu bywoliaeth trwy olchi dillad y bobl gefnog mewn golchdai bach yn eu gerddi ffrynt.  

9. 31-03-2012. 1/2. Tolosa. Anem Òc! Per la lenga occitana! 5
Pump wedi edrych ar luniau o’r gwrthdystiad dros yr iaith Ocsitaneg yn nhref Tolosa (Ffrangeg: Toulouse) y bûm ynddo ychydig dros bythefnos yn ôl.

10.01-04-2012. 2/2. Els Hostalets de Balenyà. 5
Rhai dewr eto wedi mynd ymlaen i weld y llwyth o luniau yn yr ail ran.

A dyma ddiwedd ar y dadansoddiad diangen a hirwyntog hwn.

diumenge, 8 d’abril del 2012

Ras - Cursa del Roc Gros, 1 Ebrill 2012


Ar ôl y gwrthdystiad yn Tolosa ddydd Sadwrn cyraeddasom yn hwyr yn ôl ym mhrifddinas Catalonia. Bu’n ddau o’r gloch arnaf cyn cael cropian i mewn i’r gwely - a bu rhaid codi am saith i nôl y trên wyth i Els Hostalets de Balenyà, yn Swydd Osona, i gymryd rhan mewn hanner márathon mynydd (math ar Ras Eryri heb y glaw).

Ddim yn cofio llawer amdani - fel y mae rhai’n cerdded drwy eu hun, rwy’n amau imi redeg yn fy nghwsg. Ond mae rhaid fy mod wedi gwneud y ras am fod gennyf y lluniau i’w brofi. Ardderchog o le, golygfa wych o grib y mynydd dros Wastadedd Vic. Un o gadarnleoedd yr iaith Gatalaneg yw'r ardal hon (mae'r iaith   wedi diflannu i bob pwrpas ymhlith y rhan fwyaf o'r boblogaeth erbyn hyn, wrth i'r Catalaniaid ddod yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain. Ond stori arall yw honno).




Bydd ras debyg gennyf o fewn pythefnos - Hanner Márathon dros Annibyniaeth Catalonia, yn Torroella de Montgrí, yn Swydd Baix Empordà. Dyma sut y bu hi’r llynedd (dim ond ras 10km fu yn 2011).


http://www.youtube.com/watch?v=BZc4lfKwWT0 Rhan 1 - hyd at feudwyfa Santa Caterina

http://www.youtube.com/watch?v=ZSNVCXlSk3c Rhan 2 - yn ôl at y llinell gychwyn.

.


Y Ddraig Goch yn chwifio ar heolydd Tolosa, Ocsitania


(1) PONT

Ddydd Sadwrn diwethaf (31 Mawrth 2012) yr aeth aelodau o gymdeithas ‘Pont’ – Cymdeithas Efeillio Diwylliannau Cymru a Chatalonia – o Barcelona i Tolosa i gymryd rhan yn y gwrthdystiad dros yr iaith Ocsitaneg – i ymgrychu am hawliau cyflawn i siaradwyr iaith Ocsitania. 















(2) CAOC

Aethom i Tolosa fel rhan o Gymdeithas CAOC.

El Cercle d'Agermanament Occitano-Català (Cercle d'Afrairament Occitanocatalan en occità) o CAOC és una associació que vol fomentar les relacions entre les cultures occitana i catalana. Té seus a Barcelona i Tolosa.

Cylch Gefeillio Ocstania a Chatalonia (en Ocsitaneg Cercle d'Afrairament Occitanocatalan) - cymdeithas er hyrwyddo cysylltiadau rhwng diwylliannau Catalonia ac Ocstania. Mae ganddo swyddfeydd yn Barcelona a Tolosa.
















(3) FIDEO 1: Y Ddraig Goch ymhlith môr o faneri Ocsitania

Bu i’r Ddraig Goch ddyroi cychwyn ar heolydd Tolosa (fe’i hyngenir tw-LW-zo) (Ffrangeg: Toulouse) am brynháwn cyfan.















Ar gychwyn y clip fideo y mae’r gwrthdystwyr yn canu 'Se Canta', anthem answyddogol Ocsitania. Yn ôl y sôn, gwaith Gaston III Fébus (1331-1391), Iarll Fois a Bearn, yw'r gân honno. Mae ar lafar gwlad yn Ocsitania benbaladr. Fel yr aeth 'Cwm Rhondda' a ‘Chalon Lân’ yn ganeuon mabwysiedig cefnogwyr y bêl gron yng Nghymru, felly y mae ‘Se canta’ yn gân rygbi Ocsitania. Ers 2010 mae'n anthem swyddogol Clwb Rygbi Tolosa.

(Y faner yn chwifio o funud 1.34 ymlaen)
http://www.youtube.com/watch?v=r-KBBwlFQsI&feature=relmfu 

Se Canta / Os caniff

Dejós ma fenèstra / O dan fy ffenestr
I a un aucelon / Y mae aderyn bach
Tota la nuèch canta / Mae’n canu gydol y nos
Canta sa cançon / Yn canu ei gân

Se canta, que cante / Os caniff, gad iddo ganu
Canta pas per ieu / Nid er fy mwyn innau y mae'n canu
Canta per ma mia / I'm cariad y mae’n canu
Qu’es al luènh de ieu  / Sydd ymhell oddiwrthyf
 
(4) FIDEO 2:

Dyma ein fideo ninnau o’r gwrthdystiad i gyd (braidd yn hir - 12 munud):



(5) L'INSTITUT D’ESTUDIS OCCITANS (Bwrdd Gwybodau Ocsitanaidd)

O dan nawdd Pwyllgor (“Anem Òc”) cynhaliwyd yr orymdaith, a greuwyd gan y Sefydliad i drefnu’r gwrthdystiadau dros yr iaith  

Bu gwrthdystiadau tebyg yn cael eu cynnal ar yr un pryd yn Breizh / Llydaw, yn Euskalherria / Ngwlad y Basg (y rhan o dan reolaeth Ffrengig), yn Nghatalonia (y rhan o dan reolaeth Ffrengig), ac yn Elsass / Alsás.

Rhan o wefan Institut d’Estudis Occitans  http://www.ieo-oc.org  wedi ei throsi i’r Gymraeg:

La Coordinacion crida a una manifestacion (y mae’r pwyllgor yn trefnu gwrthdystiad) lo 31 de març de 2012 (ar yr unfed ar ddeg ar hugain o fis Mawrth 2012) que serà la seguida d’aquelei (a fydd yn dilyn) de 2005, 2007 e 2009 (rhai’r blynyddau 2005, 2007 a 2009) onte sigueriam de miliers (lle y byddwn wrth ein miloedd) per dire "Anem òc ! Per la lenga occitana !" (er mwyn dweud - Awn ni, Òc! Dros yr iaith Ocsitaneg)

La Manifestacion se farà a Tolosa (Cynhelir y gwrthdystiad yn Tolosa).
Aqueu 31 de mars de 2012 serà (Bydd yr 31 Mawrth hwnnw) una granda jornada au nivèu nacionau (yn ddiwrnod mawr ar raddfa genedlaethol) per totei lei lengas dichas regionalas (ar gyfer yr holl ieithoedd ‘rhanbarthol’, fel y’u gelwir) que vòlon una Lèi (sydd am gael Deddf).

Ja lei Bretons, Bascos, Catalans e Alsacians son partents (Bydd y Llydawiaid, y Basgiaid, y Catalaniaid a’r Alsasiaid yn cymeryd rhan) faràn una manifestacion (yn cynnal gwrthdystiad) dins sa region (yn eu rhanbarthau eu hunain) lo meteis jorn (yr un diwrnod).
















(6) FIDEO ARALL
Yn y fan hyn y mae fideo arall am y gwrthdystiad, a hwnnw yn yr iaith Ocsitaneg


Mae’n debyg taw rhai sydd wedi dysgu’r iaith yw’r rhan fwyaf o’r siaradwyr- fel arfer fe'u hadnabyddir am bod yr ‘r’ Ffrangeg ganddynt.Yn draddodiadol nid yw’n rhan o sustem seinyddol yr iaith (er iddi ddechrau, yn ôl y sôn, treiddio i lafar trigolion Provença ychydig dros ganrif yn ôl). Math ar ‘r Gymraeg’ oedd ganddynt gynt - yn wir, peth hynod i’r Ffrancwyr oedd y ffaith bod yr Ocsitaniaid yn methu ynganu’r ‘r Ffrangeg’ wrth siarad iaith y wladwriaeth, yr iaith Ffrangeg.  

Er i rai adroddiadau sôn am 30,000 o wrthdystwyr, rwy’n amau ein bod yn rhyw 10,000 ar y gorau.

(7) AC UN ARALL ETO
A dyma Se Canta unwaith eto yn y gwrthdystiad:


dilluns, 27 de febrer del 2012

Pentref Wales, Iowa


Yn haf 2007 bûm ddwywaith ym mhentref Wales ar bwys Red Oak - dwy wibdaith mewn gwirionedd, ond yn ystod y deugain munud yr oeddwn yn y pentref cefais dynnu rhyw gant a hanner o luniau bob tro.

Dyma'r lluniau o'r ddau ymweliad:



Bu dau gapel yn y cylch ar un adeg – Gomer (1872) (Annibynwyr), a Wales (1874) (MC). Mae capel Wales yn dal i sefyll yn y pentref bach hwn o ryw hanner dwsin o adeiladau. Mae’r llall – Gomer - wedi diflannu ond ei fynwent yn dal i fod.

Dyma restr o’r enwau o’r rhai a gladdwyd yn y fan honno.

Mae hefyd Eglwys Saesneg i’r gogledd ddwyrain o Wales – Eglwys Center Ridge (1882). Yn y fynwent yn ei hymyl ceir y cyfenwau Morgan, Hughes, Woods a Lewis. Efallai taw Cymry oedd y rhai hyn hefyd.

Saesneg yw iaith y rhan fwyaf o’r beddau ym Mynwent Gomer, ond y mae ambell bennill yn Gymraeg wrth gwt rhai o'r arysgrifau coffa.

Canys byw i mi yw Crist a marw sydd elw

Ar ôl eu holl flinderau dwys  
Gorffwyso maent mewn hedd
Ymhell o  sŵn y byd a'i bwys
Heb boen yn llwch y bedd

Mor ddedwydd yw y rhai trwy ffydd
Sy'n mynd o blith y byw
Eu henwau'n perarogli sydd
A'u hun mor dawel yw

Ac un na chefais ddehongli: Canys y mae yr ......ardderchog (?)....ond.... mewn gwell....

Ar ambell un, yn ddiddorol iawn, y mae sôn am le geni’r unigolyn – Ceredigion, Cefn-coch, Cwm-gof, Bryn-mawr, Aberystwyth.

Henry Thomas
Born in Cardiganshire Wales June 29 1846
Died September 14 1908
Elizabeth S. [Thomas]
Born in Cotter, I[ow]a Feb 16 (?) 1850
Died Feb 23 1932

(Rhan o sefydliad Cymreig Long Creek yw pentref Cotter)

Susan wife of G. R. Jenkins
Born May 12 1849
at Cefn Coch
near Machynllath (sic)
Cardiganshire Wales
Dau of J and A Jones
Died Oct 24 1893

Tybed ai dylanwad tafodiaith y gogledd-orllewin yw'r -a yn lle -e (neu ai!) 
yn enw'r dref honno (Machynlleth / Machynllaith)? Hynny yw, bod y saer maen neu'r gweinidog o Wynedd, efallai.

Er nad yng Ngheredigion y mae Machynlleth wrth gwrs, ond yn yr hen Sir Drefaldwyn, cyfeirir at leoliad y  Cefn-coch y mae 'Cardiganshire' o bosibl. Y mae Cefn-coch yn Sir Drefaldwyn, ond ni wn a ellir dweud ei fod ar bwys Machynlleth. A oes fferm o'r cyfryw enw tybed rhwng y Borth a Machynlleth?

Dan H Davies
Late of Ferndale Glam[organshire]. S[outh].W[ales].
Born at Cwmgof Carmarthen
Died at Red Oak Iowa
April 4 1880

John Hughes
Born in Aberystwyth Wales
Sept 1833
Died Jan 22 1896

Mae lle wedi ei adael rhwng 'Sept' a’r flwyddyn – yn sicr ddigon i gael ychwanegu pa ddydd o’r mis y’i ganwyd oedd y bwriad.

Rebecca Morgan
July 24 1845
Bryn Mawr Breconshire South Wales
Mar 4 1910

Mae un garreg yn Gymraeg – ar wahân i dipyn o Saesneg wrth sôn am fan geni’r wraig a gladdwyd yno.

Elizabeth S.
Priod y Parch. Samuel Jones.
Ganwyd hi yn Carnarvonshire North Wales
Bu farw Ebrill 21 1888
yn 56 mlwydd oed
Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth




dissabte, 25 de febrer del 2012

Yr Arloeswyr

Yn ddiweddar yr wyf wedi bod yn rhoi trefn ar rai o’r lluniau a wneuthum bron bum mlynedd yn ôl, yn haf 2007, yn Iowa.

Dyma rai o feddau Mynwent Riverside, yn Spencer, Clay County, a llawer yn eu plith yn eiddo Cymry’r cylch.


Yng nghyfrol II Hanes Cymry America (1872) ceir sôn am y sefydliad Cymreig yn Swydd Clay o dan yr enw “Peterson, Clay County”, sef un o’r pentrefi lle y bu canran uchel o Gymry.

Dywed: “Sefydlodd rhai Cymry yno yn niwedd y fl. 1864, ac ymfudodd llawer o Gymry o Wisconsin a Lime Spring, a manau ereill, yno ar ol hyny, ac y maent yn parhau i ymfudo yno... 

Mae gan y Bedyddwyr Cymreig achos crefyddol bychan yn y lle hwn, a golwg obeithiol arno. Mae Thomas Evans, a T. Bevan, ac R. Roberts, ac ereill, yn byw yno. Nid yw yn mhell o Sioux Rapids.”

(Ar y map uchod: Trigfannau Cymry Iowa yn 1872. Mae'r blaenlythrennau'n cynrychioli enwau'r swyddi. Bu Cymry Swydd Clay yn anad dim yn ne-orllewin Swydd Clay a gogledd-orllewin Swydd Buena Vista)

Rhyfedd meddwl bod Clay County yn gyrchfan i Gymry oddi ar 1864, ac erbyn heddiw nid oes cof amdanynt ymron – dim ond ambell fedd hwnt ac yma ym mynwentydd yr ardal, a mynwent “Capel Bedyddiol yr Arloeswyr o Gymry / yr Arloeswyr Cymreig” sef y “Welsh Pioneer Baptist Church” ar bwys Linn Grove. Mae’r capel wedi hen ddiflannu.

Sefydlwyd Gwladfa Patagonia flwyddyn ar ôl hynny a’r Gymraeg yn dal yn iaith fyw yno i raddau. Ond yn Iowa mae’r iaith wedi hen fynd i ebargofiant, ynglyn â’r cof am yr arloeswyr o Gymry yn y lleoedd lle y buont yn byw.

Ym Mynwent Spencer y mae bedd hynod (munud 1:34 yn y fideo uchod) lle y claddwyd Evan Jones (1829-1916) a Mary E. Jones (1841-1917). O dan y cyfenw Jones ar y garreg saif y gair “Pioneers”.