divendres, 23 de setembre del 2011

Gwalia Deg, Nebraska - eto


Dydd Sadwrn 10 Medi 2011. Bu’n daith led hir o gyffiniau Denver (Colorado) i Omaha (Nebraska). Cyn cychwyn yr oeddym yn amau'n sicr ddigon y byddai’n nos arnom cyn cyrraedd Lincoln ac Omaha.




Mae dwyrain Nebraska yn frith o fân sefydliadau Cymreig ac yr oeddym yn awyddus i achub ar y cyfle i weld o leiaf un ohonynt. Ond bu’r amser yn brin.

O wneud dargyfeiriad bach y byddai’n bosibl ymweld ag un o ddau sefydliad Cymreig yn y dwyrain – naill ai Shell Creek / Postville i’r gogledd o’r draffordd, neu Gwalia Deg i’r de.

Ar hanner y daith gwelasom taw dim ond rhyw awr o olau dydd byddai gennym erbyn i ni gyrraedd Aurora ar y draffordd. Dyma benderfynu mynd ar drywydd Gwalia Deg, sydd heb fod mor bell o’r hen Lincoln Highway.

Dyma luniau o'r daith honno:

http://www.youtube.com/watch?v=R5mknTq6zaw


Trwy ryw amryfusedd yr oeddwn wedi dod i’r Unol Daleithau heb y swmp o nodiadau ar y sefydliad hwn, ac eraill. Ar fy nesg o hyd, dros Fôr Iwerydd yn aros eu cludo. Ond bu cymaint o frys arnaf ar y funud olaf i nôl y metro i ganol y ddinas fel yr euthum allan o’r ty heb eu rhoi yn y bag.

Rywle yn ardal Clay Center, Harvard, Sutton yw / oedd Gwalia Deg. (Mae’n debyg taw enw ar lafar ymhlith y Cymry yn unig oedd hwn, ac ni fu erioed yn “swyddogol”. ).


Edrych y wlad fu’r daith i’r fro honno. Tipyn o ragchwilio, cael adnabod gwedd y tirwedd a dychwelyd ryw dro eto, os bydd ryw dro eto.

Fe droesom oddi ar y draffordd yn Aurora, ac aethom trwy’r wlad fflat, undonog, ag ambell lwyn coed ar ochr yr heol, yr hen breri wedi ei droi yn faesydd indrawn. Ar ôl rhyw ddeng milltir o daith daethom i Clay Center – fe'i henwyd felly am fod y dref yng nghanol Swydd Clay.

Yr oeddwn yn rhyfeddu bod cymaint o leoedd cleiog yn yr Unol Daleithiau mewn mannau heb fod yn amlwg am eu pyllau clai. Ond nid math o bridd yw’r ‘clay’ hwn, ond cyfenw (fel y cefais weld ar wikipedia!).

Planhigfäwr oedd Henry Clay (1777-1852) – bu ganddo blanhigfa â 22 o gaethweision – a aeth yn gyngreswr dros dalaith Kentucky. Bu’n Llefarydd Ty’r Cynrychiolwyr, ac yn un o’r rhyfelgarwyr (“war hawks”) yn y Ty o blaid mynd i ryfel yn erbyn Lloegr.

Cyhoeddwyd rhyfel ar Loegr yn 1812 (a barhaodd yr ymladd am ddwy flynedd a hanner).

Bu Lloegr yn rhyfela yn erbyn Ffrainc a gosododd gyfyngiadau ar fasnach rhwng Ffrainc a’r U.D., yn ogystal â chipio morwyr a anwyd yn y Deyrnas Unedig oddi ar  longau Americanaidd i’w gorfodi i wasanaethu yn llynges Lloegr i ymladd yn erbyn Ffrainc, am nad oedd ganddo ddigon o forwyr profiadol.

Yn ogystal yr oedd y Saeson yn rhoi cefnogaeth milwrol i’r Americanwyr brodorol er mwyn rhwystro ymdrechion yr Unol Daleithau i ymestyn eu tiriogaeth i diroedd sydd erbyn heddiw yn rhan o Ogledd-orllewin y wlad (a'u gadael i'w tynged i wynebu gwylltineb yr Americanwyr gwynion pan nad oeddynt yn ddefnyddiol mwyach).

Bu Clay yn gweithredu yn y Gyngres er lles pobl y Gorllewin, ac fe’i llysenwyd yn “Henry of the West” (Henri’r Gorllewin) a’r “Western Star” (y seren orllewinol). Yn ddiamau dyna’r rheswm dros gymaint o swyddi o’r enw Clay County yn y Gorllewin, megis yn Iowa, lle y bu ‘sefydliad Cymreig Swydd Clay’ (Clay County Welsh Settlement) o gwmpas Peterson hyd at Linn Grove (dros Afon Sioux Fechan yn Swydd Buena Vista).

Felly, yn Swydd Clay, Nebraska, ymweld a wnaethom â thair mynwent yr oeddwn wedi eu gweld ar ochr y ffordd yr oeddym yn teithio ar hyd-ddi.

Fe aethom i Clay Center a Sutton, a chael hyd i ddyrnaid o feddau a chyfenwau Cymreig arnynt yn y mynwentydd yno. Mynwent Gwyddelig oedd y llall, ar ymylon Sutton.


Ers dychwelyd o’r Unol Daleithau, ac ail-afael yn fy nodiadau, rwy’n gweld fod ambell fynwent fach yn y wlad rhwng y pentrefi. Tybed a oes mynwent Gymreig yn eu plith?

Yn ogystal, fe fuasai wedi bod yn well i fynd i Harvard o bosibl - yn ôl “Y Cenhadwr Americanaidd” (Ionawr 1878) tref Harvard oedd Gwalia Deg, neu yn ganolbwynt i Gymry y cylch.

Bydd y draul o New York i Lincoln, prif ddinas Nebraska, yn $28,60, a chyda’r express yn $44,45, ac ar ol cyrhaedd Harvard, taith 3 neu 4 awr o Lincoln, byddwch yn NGWALIA DEG...”

...am goed i adeiladu tai, cawn ddigonedd o honynt yn nhref Harvard yn ein hyml, am yn agos yr un bris ag a delir yn Chicago. Er tanwydd, ceir glo wrth y station yn Harvard, a phan orphenir y St. Joe a'r Denver R. R., daw y glo atom o Colorado yn llawer is ei bris nag y ceir yn awr.


dimarts, 20 de setembre del 2011

AR RUTHR YN CHICAGO


Dydd Gwener 16 Medi 2011. 
Am y cyntaf i gyrraedd canol Chicago. Yr olygfa o ffenest trên y Llinell Las rhwng gorsafoedd Irving Park, Addison a Belmont. Y mae’r draffordd a’r rheilfford yn cyd-redeg am ryw ysbaid, a chefais ffilmio dwy funud a hanner o ruthr gwyllt y cerbydau ar hyd yr heol.

ELBA, PENTREF BYRHOEDLOG YN IOWA (1872-1882)


Ar dramp eto yn Iowa a’r taleithau amgylchynnol yn ystod yr haf. 

 

Ar hap a damwain, ar ôl ymweld â dau bentref Danaidd yn y cyffiniau, Elk Horn a Kimballton, daethpwyd ar draws mynwent hen bentref darfodedig Elba yn swydd Carroll, a gweld taw Cymry a fu'r pentrefwyr gan amlaf.
.

Ar gofgolfn o flaen y fynwent dywedir (o'i gyfieithu o'r Saesneg): Elba 1872-1882. Tref arloeswyr wedi ei lleoli ar bwys Mynwent Trefgordd Eden. Bu iddo swyddfa bost, siop ddefnydd, gefail gof, a bar. Protestaniaid fu’r rhan fwyaf o drigolion y cylch, ac o dras Gymreig. Pan aeth y rheilffordd i’r gogledd yn 1881 ganwyd tref Templeton.


Blackstone (Queensland, Awstralia)


Bu ffrind i mi ar daith i Awstralia yn ddiweddar a bu’n aros yn Toowong, maestref Brisbane (Queensland) sydd heb fod ymhell o Blackstone ym maes glo Ipswich. Bu ar un adeg yn bentref glofaol Cymreig. Un diwrnod aeth hi i rodio o amgylch Blackstone a thynnu ambell lun. Dyma’i ei lluniau sydd yn dangos bod olion Cymreictod y pentref a’r fro i’w gweld o hyd.




Aeth Cymry i ymsefydlu yn ardal Blackstone yn arbennig ar ôl i Lewis Thomas (1832-1913) agor pwll glo yn y cylch. O Dal-y-bont, Ceredigion yr oedd. Gweithiai mewn ffatri wlân leol, ac wedyn mewn mywngloddiau plwm yn yr ardal. Yn ddiweddarach aeth i weithio i Dde Cymru yn y pyllau glo a’r gweithiau haearn.

Ymfudodd i Awstralia yn 1859 i chwilio am aur, ond ni chafodd fawr o lwyddiant ac aeth i weithio ym mhyllau glo y Redbank, yn Ipswich.

 Agorwyd pwll glo ganddo fe a’i bartner yn 1866 yn Bundamba, Ipswich, a adnabyddid nes ymlaen fel yr  “Aberdare Mine” neu'r “Aberdare Colliery”.

Codwyd tŷ moethus ganddo yn Blackstone yn 1886 o’r enw Brynhyfryd. “The Castle” oedd ei enw ar lafar gwlad.

Prynwyd cwmni glo Lewis Thomas ar ôl ei farw gan gwmni y Rylance Collieries.

Dechreuwyd cloddio o dan y Brynhyfryd ond tanseilwyd y sylfaen a bu rhaid ei ddymchwel.

Y mae heddiw barc o’r enw Brynhyfryd Park ym mhentref Blackstone, sef  y tir fu’n amgylchynu tŷ Lewis Thomas. 

Mae enwau heolydd Blackstone yn dwyn atgof ohono fe a’i deulu bach –
Lewis Street (sef enw bedydd Lewis Thomas),
Thomas Street (sef ei gyfenw),
Anne Street (Anne Morris oedd enw ei wraig),
Mary Street (Mary oedd enw ei ferch).
Mae hefyd yno Jones Street (yn fwy na thebyg meddant ar ôl Rhys Jones, gweinidog y capel).