dimarts, 13 d’abril del 2010

Anturiaethau a helbulon – ar stop ym mhentref Llinars

Os ych chi’n edrych ar y glaw yn pistyllu i lawr y ffenestr ar y foment hon, ac yn dymuno bod yn syllu o ffenestr trên mewn gwlad ar lan Môr y Canoldir ar fore o wanwyn, dyma’r fideo i’w weld. Taith ar y trên rhwng Llinars a Sant Celoni (Catalonia) fore dydd Sul diwethaf.

Yr oeddwn ar fy ffordd i gymryd rhan mewn ras ddeg cílomedr yn Girona, 102 o gilomedrau o Barcelona. Ond bu’r trên ar stop yng ngorsaf Llinars am dri chwarter awr am fod y gwifrau uwchben yn yr orsaf nesaf (Sant Celoni) wedi cwympo i lawr. Cyrhaeddais dref Girona am 10.01, funud ar ôl i’r ras gychwyn, ac felly yr oeddwn yn rhy hwyr i ymuno ynddi.

Mae bob amser broblemau gyda’r gwasanaeth rheilffordd yng Nghatalonia am fod llywodraeth gwladwriaeth Sbaen yn gwario yr arian a godir o drethi’r Cataloniaid ar reilffyrdd a thraffyrdd, ayyb, ayyb, yn Sbaen, ac yn amddifadu Catalonia o fuddsodiadau yn ei hisadeileddau trafnidiol (ac mewn llawer sector arall).

Dyma’r “anrheithiad ariannol” neu yn Gatalaneg, “l’espoli fiscal”, sydd yn dod yn ymadrodd mwyfwy cyffredin yng Nghatalonia.

At hyn y mae rheilffyrdd Catalonia yn cael eu rheoli o bell, o brifddinas y Sbaenwyr, Madrid, ac mewn modd hynod o aneffeithiol.

Erbyn hyn y mae llawer yma yn gweld rhywbeth nad oeddynt am gredu dros y blynyddoedd – ei bod yn fwriad eglur gan y Sbaenwyr i andwyo ecónomi Catalonia, gwlad a fu hyd yn ddiweddar y diriogaeth fwyaf ffyniannus o fewn y wladwriaeth. Paham y gwelir y math yma o dorri trwyn i ddial ar wyneb ar ran y Sbaenwyr? Fel ei bod yn rhaid i Gatalonia ddal ynghlwm wrth Sbaen, am y byddai’n anhyfyw fel gwlad annibynnol. Ac os bydd yr agwedd yma yn andwyo ecónomi gwladwriaeth Sbaen i’r fargen, wel, mae gan yr Almaenwyr bocedi dyfnion.

Felly y mae’r rheilffyrdd yng Nghatalonia mewn cyflwr truenus (ar wahân i’r rheilffyrdd lleol sydd yn perthyn i islywodraeth Catalonia ei hun).

Ar ôl blynyddoedd o geisio dwyn perswâd ar lywodraeth Sbaen i adael i islywodraeth Catalonia reoli rheilffyrdd gwladwriaeth Sbaen yng Nghatalonia, er mis Ionawr eleni mae rhywfaint o gyfrifoldeb gan yr islywodraeth ar gyfer y rheilffyrdd hyn, ond cyfrifoldeb cyfyngedig tu hwnt yw (e.e. mae’r traciau, y gorsafoedd a’r rholstoc yn dal yn eiddo i’r wladwriaeth, a’r rheolaeth drostynt ac hefyd y trenau sy’n teithio tu hwnt i’r ffin i Sbaen yn dal yn nwylo’r Sbaenwyr), ac nid oes fawr o wellhâd ar y gwasanaeth hyd yn hyn. Problem arall yw mai rholstoc ail law o rwydwaith maestrefol Madrid yw’r trenau lleol fel arfer, a bod Catalonia yn fath o fynwent eliffantod ar gyfer hen gerbydau o'r "meseta castellana” (gwastadedd y Castiliaid, lleoliad Madrid).

Os nad yw’r gwifrau’n cwympo ar hyd a lled y lle, wel dyma’r trenau yn torri i lawr yma a thraw ac yn tagu’r rhwydwaith..

Mae gwefan y cwmni rheilffyrdd yn dal yn uniaith Gastileg ar lefel y wladwriaeth (dim sôn am yr Aliseg, y Fasgeg na’r Gatalaneg), ac hefyd yn Gatalonia ei hun ar gyfer gwasanaethau’r cwmni yng Nghatalonia, yn gwbl groes i ddeddfau ieithyddol Senedd Catalonia, a hynny 35 mlynedd ar ôl marwolaeth unben Sbaen.


    Olé! Popeth yn Gastileg!

Ac felly, o ganlyniad anuniongyrchol i’r anrheithiad, cyrhaeddais dref Girona ar ôl i’r ras gychwyn ac yn rhy hwyr i ymuno ynddi. Ond o leiaf cefais arian pris y daith yn ôl yn y swyddfa docynnau yn Girona am fod y trên wedi cyrraedd dros bymtheng munud yn hwyr (hawl a enillwyd ar ôl brwydr hir dros y blynyddoedd am nad oedd y cwmni rheilffordd yn barod i ddychwelyd yr un senten goch o'r blaen, ac felly nad oedd dim ‘cosb ariannol’ arno, o orfod talu’r arian yn ôl i’r teithwyr, ac o ganlyniad dim ysgogiad ganddo i wellau’r gwasanaeth gwael).

Ond penderfynwyd mai cwsmeriaid oedd y teithwyr yn yr un modd â phrynwyr mewn siop. Yr oeddynt wedi talu am wasanaeth, ac yr oedd yn rheidrwydd ar y cwmni i roi i’r cwsmeriaid yr hyn yr oeddynt wedi talu amdano, serch bod yn gwmni yn perthyn i lywodraeth Sbaen.

Yr oedd yn fwriad gennyf ffilmio gwenoliaid y bondo yn gwibio i mewn ac allan o’u nythod o dan fondo’r adeilad mawreddog wrth blatfform gorsaf Llinars, lle buom yn stond. Anelais y lens at y tŷ, ond yn yr union foment honno, yn ddirybudd, dyma’r trên yn ailgychwyn, a gwelir am bum munud dirwedd ardal mynydd Montseny yn lle troelli a gwibio’r adar mân.

dissabte, 10 d’abril del 2010

Hanner Márathon Arfordir Barselona

Yn ddiweddar (21 Mawrth 2010) rhedais yn hanner márathon Arfordir Barcelona - Swydd Maresme (hynny yw, morfa yn Gatalaneg).

Gwneuthum luniau o'r holl ras wrth redeg yr un ar hugain o gilomedrau, a'u rhoi at ei gilydd i wneuthur fideo bach.

Ar gyfer y sawl sydd yn ymddiddori mewn lluniau di-rif o gefnau athletwyr mewn gwledydd estron, dyma rannau un a dau o'r fideo:

http://www.youtube.com/watch?v=lDSQgFGqIks RHAN 1



http://www.youtube.com/watch?v=6Maa2gJvbdM RHAN 2

divendres, 9 d’abril del 2010

Yr Ysgrifbin a'r Dadleuon

Yn ddiweddar prynais lyfr ail law mewn arwerthiant ar wefan ebay oddiwrth lyfrwerthwr yn Ohio. Fe'i cyhoeddwyd yn 1862, ac felly mae ymron i ganrif a hanner oed.


O dan y manylion hyn ar dudalen sydd yn sôn am y llyfr dan sylw yr oedd disgrifiad lled fanwl o'i gynnwys a'i gyflwr. Dyma restr o adrannau'r llyfr a geid (wedi twtio tipyn arni)

Yr Ysgrifbin a'r Dadleuon, gan J. R.,
Argraffedig gan Evan Jones, Brynteg, Dolgellau, MDCCCLXII (1862).
 
Cynnwys:

Yr Ysgrifbin:
1 Hanes yr Ysgrifbin
2 Y camddefnydd wneir o'r Ysgrifbin
3 Rhagorol allu yr Ysgrifbin
4 Cyfarwyddiadau gwylaidd i'r rhai a driniant yr Ysgrifell

Can yr Argraffwasg

Y Dadleuon
1 Dadl ar ddadleu, rhwng Thomas a Iago
2 Y snuff a'r tybaco
3 Melsar a Daniel
4 Y ddau nai
5 Y tan a'r dwfr
6 Dafydd Gybydd a Wil Ofer
7 Y penteulu a'r hen lanc
8 Y pryf copyn a'r gwybedyn
9 Y llygad a'r glust

10 Y nos Sul y trodd y fantol:
a Bore dydd Llun
b Yr ail Sul yn mhen y mis
c Bore yr ail llun
d Y trydydd Sabbath yn mhen pedwar mis
e Bore y trydydd Llun
f John yn ymweled a James ar ei wely angeu

11 Yr Afradlon. — Luc xv
12 Y tri phregethwr. Dydd, nos, a Bibl
13 Y gwirod a'r ffrwd
14 Drusila a Dorcas
15 Y ddylluan a'r golomen
16 Yr ymrysonfa deuluol
17 Dyn a'i dafod
18 Y cawgyn a'r cawg
19 Ymgom yn llys Media. — Dan. vi
20 Ymryson rhwng dwy lygoden ieuanc a'u mam
21 Ymryson yn y fasged wnio rhwng y pin a'r nodwydd
22 Profiad y ddwy hen fodrwy

Yr oedd wedi ei bacio'n destlus ac yn ddiogel. Mewn gwirionedd, tipyn o dasg fu ei datbacio, rhwng y bocs, y papur swigod, y papur lapio plastig a'r asglodion polusturen.


A dyma'r tudalen cyntaf:



Bu'n eiddo i John T. Griffiths, a fu'n byw yn nhref Shawnee yn Ohio. Tybed ai'r Parch. John T. Griffiths (Edwardsdale) oedd hwn, awdur "Forty-three Years in America from April 1865 to April 1908"?

Ond efallai John T. Griffiths arall oedd. Mae'n debyg yr oedd yn well gan y parchedig weinidog y ffurf "Griffith", hynny yw, heb yr 's' derfynol. Felly oedd ei enw ar dudalen teitl ei lyfr am ei arhosiad yn y Byd Newydd - er bod eraill yn cyfeirio ato fel "Griffiths", ac o bosibl dyna oedd ei steil yntau hefyd ar un adeg, ac yr oedd oedd wedi gollwng yr 's' nes ymlaen.

Peth arall yw nad oes sôn am bentre Shawnee yn ei "Dair Blynedd a Deugain".


Ble mae Shawnee yn union? Diolch i arysgrifiad John T. Griffiths, gwelwn taw yn Oh[io] y bu e'n byw. (Yn Kansas y mae Shawnee arall). A diolch i wikipedia cawn weld ei bod yn lled agos i Columbus, prifddinas y dalaith. 


Gwelir hefyd nad oedd y llyfr wedi teithio'n bell ar ôl cyrraedd Ohio o Ddolgellau, am taw yn Hilliard y mae'r llyfrwerthwr yn byw.
 

A dyma wefan sydd yn sôn am bentre Shawnee fel y mae heddiw. Hen bentre glofaol
sydd wedi gweld gwell dyddiau.

 




dijous, 8 d’abril del 2010

Gwalia Deg eto

Mae bron i bum mis wedi mynd heibio ers i mi ddodi ryw sylw bach ar y tudalennau yma, ac felly mae'n hen bryd i mi fynd ati i ysgfrifennu eto yn y blòg.

Mae'n beth òd ei bod yn fwriad gennyf bob dydd i ychwanegu rhyw bwtyn bach at y blòg, ond serch hynny, mae cymaint o amser wedi mynd i ebargofiant cyn i mi ddychwelyd at y dyddlyfr. 

Yn ddiweddar yr wyf wedi mynd ati i roi at ei gilydd y lluniau a wneuthum â chámera digidol yn nhalaith Nebraska wrth chwilio am bentref neu sefydliad Gwalia Deg (ym mis Medi 2008).

Erbyn hyn, diolch i Google Books a sganiad a roed arlein ganddynt (o gyfrol am y flwyddyn 1878 o'r cylchgrawn Cymraeg o'r Unol Daleithiau, Y Cenhadwr Americanaidd) yr wyf yn deall i mi chwilio mewn ardal ymhell bell o wir leoliad y sefydliad. Mae yn y papur newydd hwnnw erthygl yn sôn am ddechrau'r sefydliad yn Swydd Clay, ar bwys Lincoln, tua ffin ddwyreiniol y dalaith.

Yr oeddwn ninnau wedi gwneud tro yn y cwr de-orllewinol o'r dalaith (Swyddi Hitchcock a Dundy). Ymwelasom â phedair o fynwentoedd i weld faint o Gymry fu'n byw yn y parthau hynny, a mynd o gympas mewn cylchoedd ar heolydd y preri .

Bu yno ryw ddyrnaid o gyfenwau Cymreig (Jones, Evans, Powell, Lewis, Davis, Walters) ond efallai taw beddau Americanwyr neu Saeson oeddynt, Cymry o dras, rhai a fu ganddynt ryw hynafiad o Gymro. Hynny yw, nid oedd yr enwau bedydd yn nodweddiadol Gymreig.

Ond yr oedd ambell enw yn lled debyg o fod yn eiddo rhyw arloeswr o Gymro neu arloeswraig o Gymraes.

Dyma'r ddau fideo a wnaethpwyd o'r lluniau:

http://www.youtube.com/watch?v=DVfUk1qbLFc RHAN 1 (Hafn y Lladdfa, Pentre Trenton, Mynwent Trenton)


http://www.youtube.com/watch?v=bCgbzVOCPFg RHAN 2 (Pentre Stratton, Mynwent Rose Hill a Mynwent West Union)