diumenge, 13 de setembre del 2009

Stondin PONT ym Marselona

Gwener 11 Medi


La Diada – diwrnod cenedlaethol Catalonia. Bu gan PONT - Cymdeithas y Gymru Gymraeg a Chatalonia Gatalaneg - stondin yn y Vuitena Mostra d’Entitats (Yr Wythfed Arddangosfa Gymdeithasau) a drefnwyd gan Gent de la Terra (Y Gwladwyr, Pobl y Diriogaeth).

http://www.gentdelaterra.org/





La Mostra vol ser una exposició àmplia i explícita de treballs i projectes al voltant de la nació catalana, la seva societat i la recerca de les seves llibertats individuals i col•lectives.

"Bwriad La Mostra yw bod yn arddangosfa eang ei chwmpas ac yn fanwl o weithgareddau a chyweithiau yn ymwneud â chenedl y Cataloniaid, y gymdeithas Gatalonaidd a’r ymgais i sicrhau rhyddfreintiau unigol a chymdeithasol y genedl." 

Rhyw hanner cant wedi rhoi eu manylion i ni er mwyn i ni anfon gwybodaeth am y Gymdeithas Gymraeg atyn nhw. 

Ambell Gatalaniad neu Gatalanes oedd wedi bod ar eu gwyliau yng Nghymru yn dal pen rheswm â ni. Benyw o Gatalanes ar y stondin drws nesaf i ni – y Gymdeithas Ocsitaneg – yn dod drosodd i ddweud iddi aros am fis yng Ngwynedd llynedd, mewn ty^ haf ar Ynys Faelog wrth Borthaethwy, a bod diddordeb ganddi ddysgu Cymraeg, ac yn gofyn yngly^n a'r dosbarthiadau yr ydym yn cynnal bob blwyddyn.


 Dal pen rheswm ac eraill oedd yn gofyn am sefyllfa’r iaith – faint sydd yn ei siarad? Ydi hi’n wahanol i’r Saesneg? Ydi hi’r un fath â’r Wyddeleg? Oes modd i Gymro gael sgwrs â Gwyddel, a’r Cymro’n siarad Cymraeg a’r Gwyddel yn siarad Gwyddeleg? Neu â Llydawiad? A fydd fyw y Gymraeg? A ddysgir yr iaith yn yr ysgolion? Ydi’r sefyllfa bresennol yn un obeithiol?

Catalaniad fu ar gwrs Wlpan am fis yng Nghaer-dydd yn gofyn hefyd am ein dosbarthiadau.
 

Dyma’r ail dro i ni gynnal y stondin – y tro cyntaf fu dair blynedd yn ôl, yn 2006.
 
Y tro hwnnw daeth heibio ryw fenyw o Saesnes ganol oed i ddweud bod eu merch a’i hwyres wedi symud i fyw i Orllewin Cymru, ac yna dechreuodd gwyno bod rhaid i’w hwyres ddysgu Cymraeg yn yr ysgol... A meddwl oedd hi y byddwn ni’n cytuno â’i chwyn! Anodd ar y naw oedd cael ei gwared... bob tro iddi weld bod bwlch yn y cnewllyn o bobl o flaen y stondin dyma hi yn ôl eto i ofyn beth allai ei ferch wneud yn wyneb y fath ynfydrwydd!


Eleni daeth tri Sais heibio (hen fachan tua 70 oed, a dwy fenyw o’r un oedran) yn datgan yn stentoraidd eu bod yn byw yn y Bont-faen (hynny yw, "Cowbridge", yn sicr iawn y bydden nhw wedi synnu o glywed taw yn y Bont-faen yr oedden nhw'n byw ) - a gofyn beth oedd y rheswm am yr holl fwrlwm yn y ddinas. Ai’r refferendwm oedd hyn? (Rywsut yr oedden nhw wedi clywed am refferendwm Arenys de Munt  a gynhelir ddydd Sul – rhagor o fanylion nes ymlaen, ar ôl i mi fynd yno ymhen deuddydd). Nage – Diwrnod Cenedlaethol Catalonia yw hi heddiw, yn coffáu dyddiad gorchfygiad Catalonia yn y rhyfel yn erbyn Sbaen, wrth i Barcelona ildio ar ôl gwarchae hir, ar yr unfed
ar ddeg o Fedi yn 1714.


“Oh! So now we know!” meddai’r hen w^r yn swta, a dyma’r tri yn martsio ymaith.

Rhyw w^r ifanc tua tri deg oed o Abertawe, oedd yn mynnu siarad rhyw fath o Gastileg yn herciog. Athro Saesneg wedi byw ers blwyddyn yng Nghatalonia, yn dal i feddwl taw yn “Sbaen” y mae. Dim gair o Gymraeg ganddo, ond i brofi ei Gymreictod mae e’n dweud iddo pleidleisio o blaid cynulliad yn 1997, er bod ei gymdogion i gyd yn erbyn sefydlu'r cynulliad. Nid oeddwn am estyn y sgwrs, ac yntau yn mynnu siarad Castileg er bod y Catalaniaid ar y stondin yn ei ateb yn Gatalaneg ac yn Saesneg.


Rai blynyddoedd yn ôl dyma Sais yn achwyn wrthyf – yn iaith y Sais wrth gwrs – a gofyn beth sy’n bod ar y blydi Catalaniaid? Catalaneg maen nhw’n siarad â fi – ond ydyn nhw ddim yn sylweddoli fy mod wedi dod yma i ddysgu Sbaeneg, nid Catalaneg? Wel, un o’r garfan hon oedd y Cymro bach hwn, mae’n debyg.







Rhagdybio wnaeth y Siôn Tarw hwn bod ei ddyfodiad i "Sbaen" yn hysbys i bawb yn ninas Barcelona, a bod dyletswydd ar y brodorion, pobl Catalonia, ei helpu i siarad yr iaith estron yr oedd yn ceisio ei dysgu.Ac yn ogystal, ail iaith yw i'r Catalaniaid, wedi ei gwthio arnynt gan y Castiliaid.Gwell gan y Catalaniaid call siarad eu hiaith eu hunain yn eu gwlad eu hunain.

Ffaelu deall hefyd oedd y bachan o Abertawe beth oedd nod ein cymdaithas, sef bod yn bont rhwng y Gymru Gymraeg a Chatalonia. “What’s the point?” meddai fe yn Saesneg, a bant ag e.

Sais-Gymro a ddaeth ei rieni o Ogledd Cymru wedyn (yr oedd heb ddweud yn union o ba ardal). Dywedodd ambell air yn Gymraeg, penderfynu wedyn nad oedd yn abl i gynnal sgwrs yn y Gymraeg, a phopeth yn rhyw fath o Gastileg ganddo o hynny allan. Un arall sydd yn byw yng Nghatalonia heb barchu iaith y brodorion, gwaetha'r modd.Buasai dyn yn meddwl byddai'r CYmry, ac yn enwedig y Cymry Cymraeg, yn deall sefyllfa Catalonia, ond yn gyffredinol dyw hi ddim felly, a does dim rhagor rhwng Cymro a Sais o ran eu hagwedd tuag at y Catalaniaid yma yng Nghatalonia.

Y Catalaniaid ar y stondin yn lled ddig am y rhai hyn oedd yn hyfach na’u croeso, ac yn ceisio ymarfer eu Castileg â nhw, oedd fel y Catalaniaid yn gyffredinol yr oeddynt yn rhy gwrtais ac urddasol i ddweud wrthyn nhw am fynd i’r diawl.


Cymro o dre yng Ngheredigion ar ei wyliau a’i deulu, ond ei Gymraeg yn rhydlyd tu hwnt. Un o Geredigion, o bob man! Bachan piwr ta pun, a fu’n sgwrsio am dipyn (yn Gymraeg) â’r Cymro Americanaidd fu’n gweini hefyd yn y stondin.

Er sefydlu’r gymdeithas yn swyddogol llynedd, ychydig iawn yr y^n ni wedi‘i wneud ar wahân i’r stondin a’r dosbarthiadau. Gormod o waith yn ceisio ennill ein bara ’menyn yma, gwaetha’r modd. Efallai cawn ni gyfle i fod yn fwy gweithredol yn y misoedd nesaf.

Rhagor o luniau: http://www.youtube.com/watch?v=vmIZLXVyZ_c