diumenge, 31 d’octubre del 2004

Beth ddigwyddodd i'r hen flog?

Yr oedd gennyf flòg yr oeddwn yn sgrifennu arno o bryd i'w gilydd. Ac ym mis Medi 2003 newidiais y cysylltiad â'r Rhyngrwyd. Yn lle'r hen drefn, dyma roi croeso i'r sustem ADSL; ac hefyd prynais declyn dargyfeirio (hynny yw, "router"). Ond am ryw reswm tu hwnt imi, collais i'r cysylltiad â'r Rhyngrwyd. Daeth technegwyr o dro i dro i geisio datrys y broblem. Rhai yn meddwl taw firws oedd y broblem, eraill yn dweud nad oedd y dargyfeiriadur wedi ei gyflunio'n iawn. Nid oedd modd ei gyflunio. Ar ôl dilyn pob cam o'r broses, a gwasgu'r botwm "gorffen", diflannodd y cyfluniad newydd.

Nes i gyfaill ddod y mis diwethaf (Medi), arbrofi, colli'r manylion byth a hefyd, tyngu a rhegu, arbrofi eto; ac ar ôl pedair awr bu rhyw wyrth - dyma'r cysylltiad yn ei ôl. Bu'n flwyddyn ddrud iawn hefyd - talu am y cysylltiad Rhyngrwyd, heb allu ei ddefnyddio.

A dyma fynd yn syth at y blòg oedd gennyf - ond ysywaeth yr oedd wedi diflannu. Dim siw na miw amdano. Dim yw dim. Heno felly yr wyf wedi creu blòg newydd. I beth, wn i ddim.