dimecres, 31 de maig de 2017

Y Gymraeg yn y ddeunawfed ganrif, yn y fro rhwng y Fenni a Threfynwy


Yn llyfr J. E. Southall (1855-1928) “Wales And Her Language Considered From A Historical, Educational And Social Standpoint  With Remarks On Modern Welsh Literature And A Linguistic Map Of The Country. Newport, Mon. 1892” ceir sylwadau diddorol am gyflwr y Gymraeg yn yr hen Sir Fynwy yn y cyfnod hwnnw, ganrif a chwarter yn ôl..

Dyma a ddywedir ym Mhennod 9 o’r llyfr, lle y mae’n sôn am y ffin rhwng yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith a’r ardaloedd Seisnigedig.

(Am mai blog Cymraeg yw hwn, yr wyf wedi trosi’r hyn a ddywedwyd ganddo o’r Saesneg. Ceir y testun gwreiddiol yn nghwt pob trosiad.)

O ysgrifbin y Cyrnol J. A. Bradney y daw y darn a ganlyn. Yn Nghwrt Tal-y-coed, saith milltir o Drefynwy, mae’r cyrnol yn byw ac nid oes odid neb cymhwysach i siarad am gyflwr yr iaith yn nwyrain y Sir (= yn nwyrain Sir Fynwy). Yn ogystal â siarad Cymraeg y mae hefyd yn darllen yr iaith.

“Fe ddysgais innau’r Gymraeg gan frodor o Langatwg Dyffryn Wysg, sydd o hyd yn fyw ac yn byw yn gyfagos ac yn gweithio bob dydd yn y lle hwn. Mae ganddo wybodaeth drylwyr o'r iaith, er ei fod yn gwbl ddiaddysg. Yr wyf yn credu bod gwybodaeth o’r Gymraeg gan bawb o hen bobl y fro o gwmpas Langatwg Dyffryn Wysg. Yn Llangatwg Feibion ​​Afel nid oes neb ar ôl sy'n medru siarad Cymraeg, er bod sawl un o'r hen bobl yn gwybod rhywfaint ac yn gallu deall brawddegau syml; ond mae offeirad yn dweud wrthyf iddo ddarganfod, ryw 25 mlynedd yn ôl pan oedd yn gurad yn Llangatwg Feibion ​​Afel, bod y to hŷn ym mhentref Llanfaenor (ym mhlwyf Llangatwg Feibion ​​Afel) yn go brin eu Saesneg ac iddo fynd i'r drafferth o gael hyd i lyfrau defosiynol yn Gymraeg iddynt, a buont yn ddiolchgar iawn iddo am hynny.

Yn Llandeilo Gresynni mae’r genhedlaeth hŷn o bobl y fro, er nad ydynt yn gallu sgwrsio ryw lawer, yn gallu deall Cymraeg i raddau, a byddant yn cwyno bod eu rhieni yn arfer siarad Cymraeg gyda'i gilydd, a Saesneg i'w plant. Gellir dweud yr un peth am bob un o’r plwyfi o gwmpas y fan hyn – Pen-rhos, Tre-gaer, Llanfihangel Ystum Llywern, Llanddingad, ac yn y blaen. Pentref Cymraeg oedd Llanarth hyn yn lled ddiweddar. Dywedodd  gwraig oedrannus o’r fan honno wrthyf, un sy'n siarad Cymraeg, ac yn enedigol o'r Pit, ger Clydda, fod pawb o drigolion y Pit yn siarad Cymraeg yn arferol yn nyddiau ei phlentyndod. Yn Llanfable ceir ambell wasanaeth Cymraeg yn y capel, ac yng nghapel Llanddewi Rhydderch cynhelir gwasanaeth Cymraeg yn aml. Yng nghapel Tal-y-coed ceir gwasanaeth Cymraeg yn achlysurol.




Ond yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae boblogaeth y fro i gyd wedi newid i raddau syfrdanol – mae mewnfudwyr wedi dod o bob man, ac mae’r brodorion wedi symud allan i fannau eraill. Mae wedi digwydd i'r fath raddau yn y plwyf hwn, Llanfihangel Ystum Llywern, nes nad oes ond un unigolyn, dyn canol-oed, sydd yn enedigol o’r fan hon. Mae’r trigolion eraill bob un (ac eithrio, wrth gwrs, y plant) wedi eu geni yn rhywle arall. Mae'r un peth wedi digwydd yn y plwyfi cyfagos i’r un graddau fwy neu lai. Felly pan eir ati i gael hyd i rywrai oedrannus neu ganol-oed a all ddweud rhywbeth am yr hyn a ddigwyddai yn y dyddiau a fu, gwaith anodd yw cael hyd i rywun o'r fath. Wrth gwrs, ymhlith y llu o fewnfudwyr sydd wedi dod yma y mae llawer sy'n siarad Cymraeg, ac y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnal eu hiaith, ac yn helpu i’r rhai sydd yma eisoes i’w cadw ar lafar. Yr wyf innau yn un o'r rhai sydd, boed yn gam neu'n gymwys, yn gwneud popeth i gefnogi’r iaith, a dwyn perswâd ar bobl i siarad â'u plant yn Gymraeg yn hytrach na Saesneg.”





O blith y Cymry Cymraeg sydd yn gweithio imi y mae tri o Sir Fynwy – un sydd yn hanu o Langatwg Dyffryn Wysg, un a anwyd yn Llanddewi Fach, ond a fagwyd yn Llangybi, ac un arall a anwyd yn Llanofer.


Gellir gweld y pennod i gyd yn y fan hon: 

DIWEDD

divendres, 19 de maig de 2017

Elái ynteu Élai? Rhan 2.


Rhagor o gwestinau ar gyfer y fforwm Enwau Lleoedd. Efallai bydd rhywrai yn roi cynnig ar eu hateb.

(1) Onid oes golwg led anarferol ar yr enw Tre-lai / Tref-elái? Mae’n bur anghyffredin (am a wn i) gweld enghreifftiau o’r patrwm (elfen TREF) + (enw afon).

Mae’r enw Trefynwy yn bodoli, wrth gwrs, ond eithriad prin arall yw. Onid enw cymharol ddiweddar oedd hwnnw? Mae’r enw Saesneg yn awgrwymu ei fod yn drosiad o ryw ffurf Gymraeg *Abermynwy (arllwysfa Mynwy i Wy) am ei fod yn beth hynod, mi ddywedwn, gweld mewn enwau Saesneg ‘mouth’ â’r ystyr ‘genau isafon sydd yn llifo i afon’ yn hytrach na ‘genau afon sydd yn llifo i’r môr” (Bournemouth, Exmouth, Dartmouth, ayyb).

Mae hefyd heol ym Mrynsiencyn, Ynys Môn, o’r enw Trefenai (neu ‘Tre Fenai’ ar Fapiau Google’) ond enw gwneud diweddar yw hwn o bosibl.

Yn ôl Hobson Matthews (Cardiff Records, 1898ff) :

ELY FARM. An ancient homestead in the hamlet of Ely. It was the hereditary property and residence of the late George Thomas (1821–1898), a Glamorgan farmer of the old school.

Ai Cymreigiad ar yr enw Saesneg ‘Ely’ yw Tre-lai, megis lleoedd Bro Morgannwg Tre-lales (Laleston), Tre-os / Tre-oes, Tredodridge, Trewalter, ayyb?

Byddai’r Saeson yn arfer enwau afon ar bentrefi a threfi Cymru am ryw reswm neu’i gilydd megis Brynbuga / Usk; Aberconwy / Conway (mae enw tref Conwy yn ymddangos bod yn Gymreigiad o’r enw Saesneg i bob pwrpas), Mynyddcynffig / Kenfig, Aberogwr / Ogmore-by-Sea.

Felly, oni fu yma enw Saesneg ‘Ely’ yn unig nes i’r Cymry yn yr Oesoedd Canol ail-feddiannu Bro Morgannwg?

(Ni wn pa mor hen yw’r enw ‘Ely’, na ‘Thre-lai’. Efallai nid oes sail o gwbl i’r hyn yr wyf yn ei gynnig yma!).

(2) Beth yw ynganiad lleol Lanelay Hall yn Nhonysguboriau (os nad LEIN-lei yw erbyn hyn!). Lanéli? Lanélai? Lanelái? Lanlái?


dijous, 18 de maig de 2017

Y Gymraeg yn Ne Cymru yn 1891


Dyma adroddiad byr yn Saesneg o’r Cardiff Times, ymron gant a phedwar ar hugain o flynyddoed yn ôl, yn sôn am ganlyniadau Cyfrifiad 1891. 

Wrth ei droed yr wyf wedi ychwanegu siartiau tafellog er mwyn hwyluso dehongli’r ffigyrau yn y testun hwn



LANGUAGES SPOKEN IN SOUTH WALES.

A highly interesting section of the census returns is that relating to the language spoken in Monmouthshire and South Wales.

To first take Monmouthshire. In 1891 there was an enumerated population in that county of 275,242, of whom 217,664 spoke English 9,816, Welsh 29,743 both English and Welsh; 555, other languages; while 2,475 persons made no statement on the point, and 15,209 were infants under 2 years of age.

In the Chepstow registration division there were 18,042 English-speaking residents, 30 spoke only Welsh, and 249 both English and Welsh.

In Monmouth registration division the figures were - English, 26,098; Welsh, 29; bi-lingual, 306.

In Abergavenny, 21,985 spoke English, 361 Welsh, and y 2,420 both languages.

In Bedwellty division there were 38,833 English-speaking people, 6,805 Welsh, and 15,105 Welsh and English.

Pontypool had 33,426 English, 351 Welsh, and 3,499 bi-linguals.

With a population of 96,796 Newport district had 79,280 English-speaking residents, and 2,240 Welsh, while 8,164 were at at home in both languages.

Turning to Glamor[gan]shire, we find that, with a population of 693,072. the English numbered 326,481, the Welsh 142,346, and the bi-linguals 177,726.

In Cardiff distinct, with an enumerated population of 173,796 in 1891, there were 138,276 English, 3,120 Welsh, and 19,395 English and Welsh-speaking people.

The proportion of Welsh was, of course, very much larger in the Swansea district. With a population of 114,326, 57,099 spoke the English language, 22,417 the Welsh, and 27,229 both languages. 


The figures for other towns are as follows:  


English
Welsh
Both Languages
Pontypridd
50,005
40,507
46,487
Merthyr Tydfil 
34,651
35,244
39,812
Bridgend
19,243
11,806
17,329
Neath
17,793
14,740
20,493
Pontardawe
1,590
13,655
5,132
Gower
7,834
857
1,849

 CARMARTHENSHIRE.
Llanelly
6,161
25,366
17,630
Llandovery
688
6,804
3,570
Llandilofawr
926
13,327
5,151
Carmarthen
3,976
17,848
10,586

PEMBROKESHIRE.
Narberth
7,445
6,520
3,392
Pembroke
26,871
67
1,430
Haverfordwest
17,643
7,086
5,982

CARDIGANSHIRE.
Cardigan
679
1,285
4,575
Newcastle-in-Emlyn
549
15,501
2,231
Lampeter
328
7,230
1,713
Aberayron
148
9,369
1,549
Aberystwyth
2,169
11,971
6,136
Tregaron
106
7,268
907

 
 (Diwedd)

A dyma'r siartiau tafellog:





















 


































A dyna'r cwbwl am y tro! 

dimecres, 17 de maig de 2017

Mwynglawdd 'Cymro'. Colorado ac Arizona.



Pwt arall a ddodwyd gennyf ar y fforwm "Enwau lleoedd":
Enwau Cymraeg a Chymreig Dramor:
Ar bwys Central City, Swydd Gilpin, Colorado, bu mwynglawdd o’r enw ‘Cymro’.
Er ei fod yn prospector profiadol (= George Griffiths), ac wedi darganfod y mwngloddiau “Cymro,” “Wales” a “Bangor” yn swydd Gilpin, nid oedd yn deall natur ei ddarganfyddiadau y tro hwn.“ Hanes Cymry Colorado. Evan Williams. Denver, 1889.
Fodd bynnag, mae’r “Rocky Mountain Directory and Colorado Gazette For 1871” yn sôn am James R. Jones fel darganfyddwr y wythïen.


Bu mwynglawdd arall o’r un enw yn Arizona. Yn y ‘Weekly Journal-Miner’ (Prescott, Arizona) 17 Ebrill 1901, cawn:
To G. R. Hughes, his heirs or assigns: You are hereby notified that we have expended during the years 1899 and 1900 Two Hundred Dollars... in labor and improvements upon the Cymro mine, situated in Walnut Grove Mining District”.
Ar bwys tref Prescott, Yavapai County, Arizona y mae Walnut Grove.

Elái ynteu Élai?

Y mae trafodaeth ddiddorol ar y fforwm 'Enwau Lleoedd', a gychwynnwyd gan Dylan Foster Evans, ar ddefnydd cyfoes y ddwy ffurf ar enw’r afon Elái (hynny yw, ai Elái ynteu Élai yw’r enw)?

Dyma sylw gennyf innau y bore yma, wedi ei gopïo i’r blog yma gan nad wyf wedi dodi dim arno ers dros fis!

Parthed (elái) ac (élai), a oes enghreifftiau eraill i’w cael yng Nghymru o ddau enw cyfredol ar yr un afon?

Mae enghraifft hybsys yn Lloegr o afon ac iddi ddau enw, sef Tafwys yn ninas Rhydychen – a adweinir hefyd yn y fan honno fel 'Isis'.

Yn ôl erthyglau gan wikipedia ar Isis a Thames (y darnau canlynol o'r erthyglau wedi eu cyfieithu, a’u haddasu yn sylweddol, o’r Saesneg),

"Enw arall ar Afon Tafwys yw “Isis” a ddefnyddir ar gyfer y rhan o'i tharddiad ym Mryniau’r Cotswold (Thames Head yn Swydd Gaerloyw) hyd at aber Thame yn Dorchester yn Swydd Rydychen...

Mae mapiau’r Arolwg Ordnans yn dal i roi "River Thames or Isis” ar ei fapiau fel enw’r afon hyd at Dorchester. Fodd bynnag, ers dechrau'r 20fed mae’r enw Isis wedi colli yn gyffredin fel enw arall ar yr afon ar wahân i’r darn yn ninas Rhydychen...

Awgrymwyd gan rai haneswyr fod yr enw Isis yn ei wreiddyn (ffurf gynharaf 1350 Isa; yn 1577 ceir Isis am y tro cyntaf) yn dalfyriad o’r enw Lladin ar yr afon, sef Tamesis.”

dimecres, 12 d’abril de 2017

Enghraifft o dafodiaith Bro Morgannwg o'r flwyddyn 1897.


Darn o hanes Ianto'r Shortar, yn nhafodiaith Bro Morgannwg. O Bapur Pawb, 29 Mai 1897.


IANTO'R SHORTAR 
[Gian Fachgian o Fro Morgianwg.] 

XI. DECHREU CHWALU’R NYTH. 

Af fi ddim i wed wthtoch chi am boiti’r holi a'r crosholi fuws ar Ianto biach boiti'r mochyn - dim ond gwed ’sponiad Ianto biach yn short ’naf fi; achos ma stori'r mochyn yn myn’d dicyn biach yn hir, y’ch chi'n gwpod.

Beth bena, ro’dd y ’sponiad rhwpath fel hyn: Weti i Ianto biach ddwad nol o’r gwaith tin, rol bod a chino iddyn nhw, fe ddath Shoni biach Wil Sherwr iddi moyn a gial myn’d ar hyd y lle i seuthu adarn biach; ac ar hyd y lle i seuthu adarn biach etho'n nhw’ch dou. 

Ro’dd yr adarn biach yn gwpod ta dwad ar ’u cownt nhw own nhw; felny, ar ol cerad a cherad am oria, cheson nhw ddim cynnyg ar seuthu dim at ddim, ond at un goch giam fiach; do’dd hono ddim yn gwpod dim am boiti nhw, ond fi ffilws Ianto a seuthu hono hed. 

Weti Ianto biach ffili seuthu’r goch giam, dyma Shoni’n dechra shimplo’r pystol, trw wed niag o’dd a ddim gwerth; nia laddsa fa ddim cleran withach ’deryn, a lot o rhw flagardath felny. Ro’dd Ianto’n cynnyg dala wager a fa, lladdsa fa fuwch ne geffyl; a felna o’n nhw’n tafoti a’u gilydd wtht gerad sha thre, nes to’n nhw o fla’n y Lion.

Fan ’ny, fi welws Shoni fochyn y Lion yn acor bedd iddo i hunan yn y doman. 

“Ianto,” eba Shoni, “wyt ti’n gwed y lladda dy bystol di fuwch ne geffyl, ond fi ddala i a ti ginog a dwrnad o farbls nawr nia ladda fa ddim mochyn.” 

“Fi dala i y consartina a ti,” ebe Ianto, “lladdiff a.”

“Nawr, ta, giad i ni wel’d, nawr, ta,” ’ba Shoni. 

Mwn mynad arath ne lai, ro’dd y mochyn yn cwmpo yn farw clotshan iddi fedd weti cial i seuthu’n gwmws yn ’i lycad whith. 

Gita bod y mochyn yn cwmpo, fi glwsan laish menw yn gwiddi: “Beth wyt ti’n neyd, y scowndral biach; am beth owt ti’n lladd y mochyn, Ianto?” &c. 

Gwraig y Lion o’dd y fenw. Ro’dd hi’n gwel’d y cwbwl, ond wydda hi ddim beth o’dd gita nhw mwn llaw, stodd y peth weti dicwdd.

’Don nhw ddim weti gwel’d hi cyn iddi widdi felna, ond nhw gwelson hi nawr; ond ethon nhw ddim i ddala pen stori a hi, achos fi rhytson nerth ’u trad i gwato i’r coud o’dd jest ar bwys ’no; a dyna lle buo nhw’ch tri yn gwato fan ’ny ys to hi’n nos pitsh. 

Ro’dd Mac Cinli, y’ch chi’n gwpod, gita nhw o’r dechra. Weti ’ddi fyn’d yn nos felny, fi ddechreuson ’u ffordd sha thre; ond ro’dd gormod o ofon cial ’i whado gian ’i fam ar Ianto i fyn’d i’r ty; i’r ardd i gwato yn y coud gwsberis a’th a, ond fi a’th Mac Cinli a Shoni sha’r ty’n streit. 

Ro’dd Ianto biach yn gwel’d ’i fam a Meri yn myn’d i whilo am dano, ac weti iddi nhw fyn’d, y slipws a i’r ty ac i’r gwely heb wmolch nia byta bwyd nia dim. 

Weti Ianto biach fyn’d drost ’i stori, dyma’r hen Ianto yn gofyn iddo:

“Ceso ti’r ginog a’r marbls gian Shoni?” 

“Do,” ’ba fynta. 

“O! dera di, ’ta,” eba’i diad, dan winco arna i, “dyw’r gollad ddim yn gollad i gyt, 

yto ’ta? Os gialla i gial gwaith i ti fori, gai di dechra gwitho dy’ Llun nesa’i ti gial talu am y mochyn yto. Wi weti setlo a Mac y Lion felna hono, wyt ti’n folon?”

“Otw i,” ’ba fa, a’r dwr yn tascu o’i lycid a, gian mor falch o’dd a i glwad. Ro’dd i diad yn rhoi dwy newydd dda iddo gita’u gilydd wtht wed felna. 

Fi gias Ianto waith i Ianto biach fel ro’dd a’n meddwl; ac fi gias Ianto biach ddechra gwitho’r dy’ Llun cynta’r ol ’ny; ac weti’n, ’nath a ddim llwar o ofid i neb gita’r pystol a’r consartina. 

Ro’dd Bill Hwals nawr yn dechra myn’d

yn fachgian drwg, ac o ddrwg i wath ro’dd a’n myn’d o hyd. 

Weti ’ddo ddechra ciaru, ro’dd a’n gias budur iddyn’ nhw yn ty, ac ro’dd a’n colli llwar tyrn ar ’i waith i herlid cwrw a potchan giam a phetha. Ro’dd a weti cial tair symans am botshan, ond do’dd a ddim weti dala dim giam; ac achos hyny a phetha, ro’dd i diad a fynta yn ffrio yn ty yn rown abowt fel ci a mochyn. 

Ond ta beth yn byd ’nelsa Bili, do’dd dim bai ar Bili gian ’i fam. Bili o’dd ffafrat ’i fam, a Ianto biach o’dd ffafrat i diad; ond dyn helpo Meri, pwr dab, do’dd neb yn ffafro llwar ar Meri. Ro’dd Ianto biach yn bwcwth prynu lot o betha iddi pun delsa fa’n rhowlar-man i enill saith a whech y dydd fel ro’dd Bili’n gneyd. 

Do’dd dim gwerth o giam am boiti Glyndwynant; ro’dd y pydlars a’u cwn a’u dryllia ar ’u gol nhw ddydd a nos; ond ro’dd Bili bown o gial myn’d i whilo o hyd, er i’r jestysed wed wthto’r tro dwetha buws a o’u blan

nhw ta carchar o’dd yn ’i haros a pun delsa fa ’no weti’n. 

Un bora, fi ballws Bili a chwnu i fyn’d sha’r gwaith; rodd ’i ben a rhy dost iddo witho, ’ba fa; ond fi gwnws heb fod yn hir i gial myn’d i whilo am sgwarnog; ro’dd a, ma’n depig, weti setlo y noswith cyn ’ny a Dic y Washman a Shoni'r Cwn ffor’ o’dd hi fod. 

Ro’dd ’i ben a’n iach net ’i fyn’d i gwrdd a Dic a Shoni boiti ddeg o’r gloch i’r Tinman’s, ac i fyn’d gita nhw a’r cwn weti’n i whilo am sgwarnog i dir Gelligron. Weti nhw whilo lot dyma nhw o’r diwadd yn cwnu sgwarnog, o’dd weti diwad ’no o rhwle arath, dyma hi’n hylyw fawr gita nhw stodd y lle’n eco. 

“Hylyw! Mac Cinli; O! iafal a!” ‘ba Bili, fel dyn yn crio acshwn jest.

“O! Topar biach a fa! O! nghi biach i; O! rhen gianon a fa,” eba Dic. [“]Hylyw, ngiast fiach i; O! ngh’loman i a hi!” eba Shoni. 

Erbyn hyn, ro’dd y sgwarnog ar gianol y ca, a’r cwn yn closo am boiti ’ddi. 

“Dyna hona’n reit., ta beth, ’ba Shoni; achos ro’dd a’n proffesu ’i fod a’i hunan yn dallt lot am boiti hela. Reit o gial ’i dala o’dd a’n feddwl o’dd y sgwarnog.” 

Pun o’dd y sgwarog yn gwel’d y cwn yn closo am boiti ’ddi felny, dyma hi'n rhoid naid lan boiti betar llath i'r air, ac wtht ’i gwel’d hi weti myn’d i golli felny, heb wpod iddyn nhw mor sytan, fi gretws Topar ta Flei, giast Shoni, o’dd weti llyncu ’ddi, ac fi gretws Fled ta Topar o’dd weti llyncu ’ddi, a dyma’n nhw myn’d i wmladd a’u gilydd yn ffyrnig. 

Fi farcws Mac Cinli’r sgwarnog yn dishgyn,

ac yn gwrsi yr a’th hi rhynti nhw hyd y berth. Fan ’ny, fi nidws y sgwarnog i ben clawdd, ac off a hi’n gros trw'n berth; a dyma Mac Cinli’n myn’d i roid naid drost ben y berth ar ’i gol hi; ond rhwffordd, fi slipws ’i ddwy trod ol a, ne rhwpath. Yn lle rhoid naid drost ben y berth, fel ro’dd a’n feddwl, rhoid naid nath a, stodd a’n dishgyn a’i ben yn erbyn poplan o’dd yn y clawdd ac weti’n, dyma fa’n dishgyn yn fon y clawdd fel cwtad o hoilon yn farw clotshan. Nawr, ro’dd y sgwarnog weti dianc, a Mac Cinli weti marw! 

Erbyn hyn, ro’dd Topar a Flei weti dwad i ddallt ffor’ o’dd petha’n iawn, ac yn dishgwl mor wirion a dwy ddafad ar gorph Mac Cinli, gita. Bili, Dic, a Shoni. Pun o’n nhw yn pendrwmu fan ’ny, uwchben corph Mac Cinli, ro’dd y dyn o’dd bia'r tir yn doti’u henwa nhw lawr mwn llyfyr rochor arath i'r berth; ac weti ’ddo fa gwpla, dyma fa'n gwed wthtyn nhw: 

“Wel, Wiliam Hwals, a Richad Lwys, a John Jones, gewch chi glwad am hyn yto. Dydd da chi heddi.” 

(I'w barhau.)

Enghraifft o dafodiaith Shir Gâr ganrif yn ôl.

Darn yn nhafodiaith Sir Gaerfyrddin o’r “CARMARTHEN JOURNAL”, Mawrth 22, 1918.

LLITH TWM 'BARELS.

BISNES Y BWYDIDD.

Wel ma rhiw helbil ofnadw inglin a chal tippin bach o fwyd i gadw corff ag ened wrth i gili. Idrich yn go dowill ma pethe nawr, ond yn ol pob tebig mi ddaw'r cwbwl yn well heb fod yn hir iawn. Nawr ma'r wlad ma yn gneid pethe ddilse fod wedi cal i gneid o ar ddachre'r rhifel. Ma un peth i weid inglin a'r bwyd, ma'r fflwr wedi gwella lot wrth fel wedd e os tippin nol. Stim cimint o'r Indian Korn indo nawr. We'r brawd [sic; = blawd] ny fowr o gownt. Mi fiodd lot o sharad amser y fflwr Indian Korn nag wedd hi ddim yn ffer fod ffarmers yn cal fflwr gwenith gatre iachis, a dinion erill yn gorffod bitta shwt stwff gwael. Ie, wel, wedd hi'n idrich dippin bach yn fflat prny, ond dina beth od fel i ni'n leiko idrich ar un wmed y ddalen. Cin y rhifel we dinion yn galler cal fflwr gwyn Extras, a'r rhan fwya o ffarmers yn bitta bara gwenith, a rhai o nhw hefid yn bitta bara barlis. We dim son prny nag wedd hinni ddim yn ffer i'r ffarmers. Wy'n cofio amser pan wedd plant ffarmers yn mind a'i tockin i'r iskol - bara menin gwenith ne farlis, a hwnnw yn go dowill i liw, a'r plant yn gorffod mind naill ochor i fitta fe, achos fod plant erill yn gneid sport am i pen nhw. Y plant ny, wedi tiddi finni nawr, si'n grwmlan fwya yn erbin pethe fel ma nhw nawr. Rownd ma'r rhod yn troi. Peth arall wedin. Wy'n cofio'r amser, ag ich chithe hefid, pan bise dyn yn mind i dre fowr, a dillad gwlad, ag wmed wedi browno yn yr hoil, beth we nobs y trefidd yn i galw nhw, — "kentri joskins," "kentri klowns” ag enwe o'r short na. Ond ma'r nobs wedi gweld gwerth y "joskins" a'r "klowns" erbin heddi. We'r hen wlad ma wedi mind dippin bach yn rhi stuck-up, ag wedd hi'n hen brid tinni rhai o bleevs crand rhai o'r swanks. O, O, middech chi, grondwch ar Twm yn cadw part y ffarmers, ag inte wedi bod yn i whippo nhw mwy na neb. Do do, ag os bidd ishe'r whip to, ma Twm yn barod i hiwso hi. Ond sna i am feio neb ar gam. Thats ffer inuff ond iw e?

Wel nawr te, cin starto, wy am weid gaer ne ddoi inghilch consert

BLANCOD, GER CINWIL.

Ichi’n cofio i fi ofin cwpwl o gwestiwne i gomitti y consert ma. Mi ddoith aped o wrth un o'r comitti, ond down i ddim yn sattisffeid ar y partiklars, ag mi es i i whilo miwn i'r bisnes. Rown i am gal gweld yn iawn fod popeth yn cal i gario mlan yn streit. Wel ma dda gen i aller gweid fod y cwbwl yn iawn. Y dispiwt mwya we hin. Mi rowd ar ddiall nosweth y consert fod dros £10 wedi cal i caskli, ond ar ol ny dim ond cifri am £8 19: 6 ddoith. Nawr yn nattiriol we rhaid idrich mwn gal gweld shwt we pethe'n bod. Wy wedi cal gwbod shwt biodd y cam-ddialltwrieth, ond dima'r peth pwysig, we'r cwbwl yn reit streit, hinni iw, dim pinsho. Wy hefid wedi cal eitha explaneshon inglin a'r conserts, a'r amownts si wedi cal i rhoi i'r boys, ochodin ma gen i bleser i weid wrth y reeders fod y comitti yn reit streit mor belled, ag yn heiddi pob sipport.

Shwt biodd hi ar y cobin ny gwmpodd i'r afon sha Pentrecwrt? Wir ma adarn epeshal i gal fforna. Ma lot o ddigwiddiade doniol wedi cimrid lle forna [sic; = fforna] yn ddweddar, a wy'n gweld fod rhaid rhoi tro na emill waith. Peth arall hefid inglin a'r hewlidd. Ma'r Kownti hewl yn grand, wharre teg, ond am yr hewlidd bach, dyn helpo'r pwr begers si'n gorffod trottian drosti nhw'n amal. Ma nhw'n gweid wrthw i fod yr hewlidd yn Ffraink rhiw dippin bach yn wath na nhw, ond wy'n dowto tanimarw.

Shwt mai’n bod oboti streik y "needl-dreivers" sha Landissil? Wy wedi cal ar ddiall fod un o'r leeding boys wedd yn gweiddi am streik wedi mind nol i weitho heb y godiad. Wir, stwff gwael iawn wedd yn y boy na. Nid gweid dim am reits na rongs y streik odw i, ond cifeirio at y bachan ma yn gweiddi am streik, ag inte wedin yn troi yn gachgi. Wy'n leiko gweld dyn yn sticko dros i arfe, bidded e'n gledde ne nedwi.

Ma rhai yn grwmlan achos ma dim ond whilo beie ma Twm. Wel sda fi ddim i neid am hinni. Felna ces i ngeni sownd, ond wy mor barod a neb i roi credit le ma credit yn ddiledus. Wy'n cal ar ddiall fod rhai boys da iawn i gal sha ardal Landissil, shach mod in whippo pwer o rai o'r netivs. Mai'n debig fod un o'r gwd netivs ma yn gwerthi llath i gwstwmers am yr un pris o hid, hinni iw, ddim wedi codi o wrth yr hen bris. Ma kesis o'r short ma yn anamal iawn, a ma’r bachan ma, — Mistir Tomos Jons, Can-ton, yn heiddi camolieth am i dreetment i'w gwstwmers. Cofiwch chi nawr te, na fidd mo hwn yn cal un trwbwl i gal i waer miwn. Ol hands on deck to help a down-reit gwd chap. Pob lwc i ti machan i.

Ma gen i aer bach nawr i weid wrth ffarmer lan rochor icha Llandissil, sha ardal Alltrodin fforna. Mi ddoith bachan gatre am leev o'r Nevi, ar ol bod mas ar y mor am riw Too Yeers. Mi ath mas i whilo am weningen, a se chi'n y man na, mi fiodd mor anlwckis a mind dros dir ffarmer neilldiol heb feddwl insilto na gneid dim niwed i Skweier Spuds, ond o'r iechid, dina storrom mai'n debig. Hm, ie, bachan wedi bod mas am rhiw too yeers, wedi joino yn wirfoddol, ddim wedi bod yn cwdwmmo a Treibiwnals, ddim yn gneid gwd war proffits, ond dina fe, we dim gweningen i fod i'r heero. Lwk heer Meinabs, do yiw col that pleing the gem? I dont. That is teling yiw streit. Rho barch i'r bechgin si'n wmla drostot ti bachan. Paid bod yn frwnt.

Wy am ofin un cwestiwn bach i gomitti klwb piskotta Llambidder. Sawl mimber nowi dderbinion nhw pwy ddwarnod, a beth we’r boys, a faint gorffod i'r boys dali am gal dwad yn eilode? Beth ma'r comitti yn neid a'r dibs? Falle bidd infformeshon ar y kwestiwn yn intresting.

Beth iw'r mwstwr si gida rhai boys ifenk sha ardal Cwmdiad ar nos Silie? Mai'n well i chi boys i fod dippin bach yn fwy tawel, ne falle daw y bachan na yn y siwt kaki heibo i chi o Garfurddin. Ma lot o chi wedi cal kondishonal exemshon, ond nid exemshon i neid disterbans ar nos Silie, a gneid ich hinen yn niwsans i rai erill. Nid amser i wharre ffwl iw hi nawr, pan ma boys stedi, streit mas yn y trenshis yn wmla drostoch chi. Ffor shem yiw miserebl shurkers. Nawr, ma gen i list o enwe'r rhai fiodd yn wharre'r ffwl nos Seel, March 3. Os nad ichi'n bihafio, mi ffeinjwch chi'ch henwe miwn man nad ichi'n leiko.

Gaer bach at deekns a gwenidog

SALEM, HEWLGALED, LLANDEILO.

Mi leikswn gal gwbod pwy blan wedd gida chi i ddowis deekn nowi pwy ddwarnod? A odi'r eilode wedi cal llais yn y bisnes? Peth arall wedin, beth we gida'r cob na yn erbin cal dinion ifenk i gaskli at y comitti showdwirs?

Beth we gidag e yn i herbin nhw? Nawr te, ma gen i bos yn iawn ichi. Shwt ma peido mind yn dost? Ma hwn yn joli gwd eideea hefid. Mai'n debig fod boys y reilwei yn cal ginni yr wsnoth o war bonnis, ond os colla nhw ddwarnod, ma nhw'n colli y ginni, ag yn lle ny yn cal twelv bob sick pei. Rissult fowr iawn o sicknes. See the point. Diw hi ddim yn tali'r ffordd i find yn dost.

At eilode

WAR AGRIKELSHERAL COMMITTI,

shir Garfurddin. Prid ichi'n mind i gihoiddi balans sheet och ackownts? Mai shwr o fod yn brid gwlei gal gweld le ichi'n sefill. Plees ripplei, ne ma rhaid gweid rhagor ar y bisnes.



dimarts, 17 de gener de 2017

Y Gymraeg yn ysgolion Sir Fynwy yn 1913.







Dros ganrif yn ôl, yn ôl y pwt isod y deuthum o hyd iddo o’r ‘Abergavenny Chronicle’ (22 Mai 1913) yr oedd rhai ysgolion yn yr hen Sir Fynwy yn cynnig y Gymraeg fel pwnc i’r disgyblion. Ni wn a yw’r adroddiad yn cyfeirio at ysgolion cynradd yn unig neu rai uwchradd hefyd; ni hyd at ba le y mae’r ‘Cymoedd Rhymni a Thredegar’ yn ymestyn – O Rymni hyd at Bontlotyn? Neu’r Bargod? O Dredegar hyd at y Coed-duon? Neu Bont-llan-fraith?

Ond yr hyn sydd yn od yw nad oedd gwersi Cymraeg yn y gweddill o’r ysgolion – ar wahân i’r ysgolion yn Llanofer, Trinant a Phantygaseg.

Yn Llanofer gwelaf o bosibl ddylanwad hir-barhaol y Gymraes Augusta Waddington, sef yr Arglwyddes Llanofer (ganwyd Llanofer 1802-1896), neu yn ôl ei henw barddol Gwenynen Gwent, a osododd fri ar y Gymraeg yn y parthau hyn o’r wlad pan oedd y werin yn dechrau troi eu cefn arni (o herwydd addysg yn Saesneg, y mewnlifiad o siroedd gorllewinol Lloegr ac o Iwerddon, ayyb).

Ond pam Trinant a Phantygaseg, tybed?



Monmouthshire and Welsh.

According to a recent report of his Majesty’s inspectors of education in Monmouthshire, Welsh is taught in all the schools of the Rhymney and Tredegar Valleys, as well as Llanover, Trinant and Pantygasseg. The education authority (states the report) has had considerable difficulty in finding teachers with adequate knowledge of the language to undertake its instruction.

It was pleasing to note, however, that evening classes for teachers had been established to meet this difficulty, and teachers had availed themselves of these classes and had benefited considerably thereby. The attitude of the teachers towards the language was friendly and sympathetic.

A General Weakness.

In the majority of the schools the basis of the teaching was the direct method. A general weakness observable in the Welsh teaching was the lack of practice by the child of continuous and connected speech. It was pleasing to note that in one infants’ school “canu penhillion” [sic; = penillion] had been introduced with conspicuous success.

divendres, 23 de desembre de 2016

NADOLIG GYDA’R CYMRY YN WORKINGTON (1881)


Cant ac un ar bymtheg a deugain o flynyddoedd yn ôl, yn y dref honno yn yr hen Cumberland yng ngogledd-orllewin Lloegr, cynhaliwyd Eisteddfod Nadolig gan Gymry’r cylch.



Adroddiad o Faner ac Amserau Cymru 12 Ionawr 1881.
 
NADOLIG GYDA’R CYMRY YN WORKINGTON

CEFAIS wythnos ddedwydd yn eu cymdeithas; croesaw cynnhes, mewn annedd hyfryd, gyda theulu hawddgar y pen cerddor coeth ac enwog, W. Griffiths, Ysw. (Ivander), perchenog y “Derwent Tinplate Works” – yr hwn, drwy ei fedr a’i ffyddlondeb, sydd wedi llenwi a chynnhesu calonau, nid yn unig ieuengctyd, ond teidiau a neiniau almonaidd tref Workington, a’r cylchoedd cymmydogaethol, o ysbryd a doniau cân; ac hefyd wedi magu awyddfryd yn ei heneidiau at lenyddiaeth goethedig. Cefais dridiau tawel yn ei dy^ i ddarllen a beirniadu cyfansoddiadau barddonol a rhyddieithol eu Heisteddfod Nadolig.

Yr oedd pwngc eu prif draethawd, sef “Dylanwad esampl,” yn un o fuddioldeb ymarferol, o’r natur mwyaf pwysfawr. Derbyniwyd pedwar traethawd rhagorol arno – dau yn Gymraeg, a dau yn Saesneg: cyfansoddiadau o anrhydedd i w^yl lenyddol. Gwnaeth y beirniad nodiadau ar bob un ohonynt; ond ei ddyfarniad oedd, rhanu y wobr rhwng yr ymgeisydd Cymreig, Llaw a Chalon, a’r ymgeisydd Saesnig, The Two Shamrocks – sef Mr. M. Humphreys (Amanwyson), Derwent Tinplate Works, a Mr. Boulton, Cockermouth. Annogodd y beirniad ar i’r trathodau gael eu hargraphu, am y gallent fod o fuddioldeb ëang a gwerthfawr, yn enwedig mewn cylchoedd teuluaidd 
 
Prif gangen y farddoniaeth oedd chwe phennill, wyth llinell yr un, ar “Ostyngeiddrwydd.” Denodd hawddgarwch y fath rinwedd grasol chwech o ymgeiswyr i’r gystadleuaeth – sef dau Sais, a phedwar Cymro. Yr oedd eu penillion yn rhai darluniadol a chynnwysfawr, mewn iaith goeth, ystwyth; ond dyfarnwyd y wobr i Glan yr-afon – sef Mr. Thomas Williams (Cariadfab), Derwent Tinplate Works.

Pwng arall oedd wyth llinell o farddoniaeth, “Cyfarchiad i’r Nadolig;” a daeth i law chwech o benillion tarawiadol a rhagorol, yn enwedig pan feddylir nad oedd gan yr ymgeiswyr ond llai nag awr i gyfansoddi ac ysgrifenu eu penillion. Dyfarnwyd y wobr i Mr. D. Shakespeare, Derwent Tinplate Works. Ennillwyd y wobr am yr araeth fyrfyfyr oreu ar “Dywyllwch” gan Mr. T. Morgan (Adi), Derwent Tinplate Works. Yr adroddiad difyr gan Mr. Alfred Spencer, a chan Gough Humphreys, bachgenyn siriol saith oed.

Cafwyd cystadlu rhagorol mewn cerddoriaeth. Ennillwyd y gwobrau fel y canlyn yn y gangen hon: - Y pianoforte solo gan Master Thompson, Workington; tenor gan Mr. Davies; darllen cerddoriaeth ar yr olwg gyntaf gan R. Reece a T. Williams; soprano song gan Miss M. J. Williams; bass song gan Mr. J. Armstrong; choral by children, y Derwent Juvenile Choir; instrumental quartette, y Mri. Grayburn a’i gwmni: deuawd, Davies a Hopkins; trio, Mr. T. Williams a’i barti; y canu corawl, y Derwent Choir, o dan arweiniad Mr. Levi Williams. Rhai cyflym a medrus iawn i dynu peroriaeth swynol y violin oedd y llangc gobeithiol, Taliesin ap Ivander, a’r Mri. Lewis a Brown. Cyflawnodd y llywydd, C. J. Valentine, Ysw., a’r ysgrifenydd, Mr. D. R. Winstone, eu gwaith yn y modd

boneddigeiddiaf. Ac aed drwy y program oll mewn o ddeutu pedair awr – amser cymmedrol.

Cafwyd cyngherdd poblog yn yr hwyr. Gan y band, cafwyd overture gref, ac wyth o ganau cynnhes gan gôr y lle, o dan arweiniad baton eu blaenor awenyddol, Ivander. Canasant ddarnau detholedig o weithiau anfarwol Mendelshon [sic] a Handel; a chanwyd amryw ganau swynol nodedig gan Mr. Metcalfe, ac yn arbenig gan Mr. Lizzie Williams (Llinos y De) a Mr. D. Lewis (Eos Dyfed). Nid oeddym yn synu chwaith fod seiniau treiddiol tannau mwynion violin Mr. E. Horace Packer yn gwefreiddio yr holl gynulleidfa.

Ond gallaf dystio, ar fỳr eiriau yn y fan yma, i mi fwynhau canu addoliad y Sabbath yn y cyssegr yn fwy na chaniadau cywreiniaf a melusaf y gyngherdd yn y Town Hall. Canwyd yn dyner iawn amryw o dônau Sankey yn yr Ysgol Sul; eithr yr hyn a’m cynhesodd fwyaf oedd yr hen emynau a’r hen dônau oeddid yn arfer ganu gan yr hen dadau a’r mamau Puritanaidd ar gychwyniad y ganrif bresennol – hen bennillion a hen alawon fyddant yn ysgwyd ac yn toddi cynnulleidfaoedd, yn dryllio y galon galed, yn denu holl gylchoedd eglwysi Cymru. A da iawn genyf feddwl fod y pencerdd, W. Griffiths, Ysw., Derwent Tinplate Works, Workington, ddetholiad o’r hen dônau a’r hen emynau hyny yn barod i’r wasg, i’w cyhoeddi yn llyfr cryno, cyfoethog, a rhadlawn; o blegid y mae llaweroedd eisoes yn credu y bydd ei gasgliad 
 
un o wasanaeth annhraethol effeithiol er cynnheau a melysau mawl a gweddïau eglwysi Cymru.

Y mae yn achos o galondid ac o lawenydd fod y Pencerdd Ivander, yr hwn sydd wedi cael ei ethol i fod yn un o feiriniaid cerddoriaeth leisiol ac offerynol yr Eisteddfod Genedlaerthol nesaf, a’r hwn sydd yn medru mwynhau a gwerthfawrogi yr alawon cywreiniaf, a’r dull mwyaf clasurol o’u canu, yn gosod ei fryd, gyda’r fath ofal, am ddwyn etto i arferiad yn ein cyssegroedd hen dônau cynnes a nefolaidd “amseroedd y diwygiadau;” a hyderwn y bydd i eglwysi Cymru gydymdroi o galon i’w gefnogi mewn anturaieth ag sydd yn debyg o effeithio mor ëang a pharhaol er lles i achos Cristionogaeth.

Y mae y baton aur ardderchog, a’r baton ifori modrwyog, a’r cwpanau arian, a’r organ a gafodd yn anrhegion oddi wrth y còrau cerddorol a fuont dan ei addysg, ynghyd â’r tystebau eraill a dderbyniodd, yn brofion amlwg o barch ei ddisgyblion iddo am ei lafur yn yr amser a aeth heibio. Ond er mor dderbyniol a defnyddiol y mae wedi bod, yr ydym yn hyderus mai ei ddetholiad o hen dônau a hen emynau amseroedd hyfryd y diwygiadau fydd coroniad ei wasanaeth i gân ei genedl; ac yr ydym yn hyderus y bydd i’w ddysgyblion a’i adnabyddwyr oll ei gefnogi ar unwaith mewn anturiaeth o’r fath gyfrifoldeb yn gystal a’r fath fuddiolddeb. – S. R.

Ôl-nodyn:

Marwolaeth - Blin iawn genym orfod cofnodi marwolaeth yr arweinydd poblogaidd, Mr. Levi Williams (ab Gwent), yr hyn a gymerodd le nos Sul diweddaf yn Workington. Dywedir mai o’r Cholera y bu efe farw. Mab ydoedd i’r diweddar Mr. Dd. Williams, un o ddiaconiaid parchus Jerusalem, Rhymni, ac am flynddau lawer yn Siloh, Tredegar. Bu Ab Gwent yn aelod ac yn arweinydd y côr am lawer o flynyddau yn nghapel Siloh, lle y teimlir hiraeth mawer ar ei ol. Yn herwydd marweidd-dra masnach y gwaith haiarn yn y lle hwn, tua phedair mlynedd yn ol, symudodd Levi i Workington, lle y bu farw ei anwyl briod. Un anwyl iawn gan bawb ydoedd Levi – pawb yn ei hoffi ac yn ei garu yn fawr yn y cymydogaethau hyn, ac yn ddiamheu genym ei fod yr un mor barchus ac anwyl i fyny yn ngwlad y Sais. Bu yn arweinydd Côr Undebol Tredegar am flynyddau. Claddwyd ef dydd Iau diweddaf yn Workington.

dijous, 22 de desembre de 2016

YR HENAFIAETHYDD

Rhestr hynod o ddiarhebion mewn papur newydd o Aber-dâr 
gant a deuddeg ar hugain o flynyddoedd yn ôl.  

Tarian y Gweithiwr. 11 Medi 1884.





































YR HENAFIAETHYDD
Diarebion

Yn canlyn, wele rai o nodwedd dywyll ac anneallus. A oes a ddeongla rai o honynt?

Anheu angen dyhewyn dir.
Anrhaith gyfludwyt taeog yn nhy ei gilydd.
Anwar fu felyn ei fraint.
Bychodedd minailed, alias mynialedd.
Coel can hadain.
Colles dy lad cystal i’r fuwch.
Colles dy gludwr a gyrchawdd ty gadwr.
Chweyrys gwawd o anianawd.
Da angen ar eiddiawg, fel taeawg.
Danof llwyr i gyfarwyre, fel Dangos.
Dofydd dihirwaith aros, potius Dafydd.
Ebawl ar ebawl i Dduw.
Elid ryw, ar barth pa yw.
Gorug ei waith a fach y fachdaith.
Goyaen a wêl ynghyfwng.
Gwaedlyd wrth faint dy drachywedd.
Gwasgu yr haid cyn no’i cherdded.
Gwell trw^ch nag arwynniad
Hir amod nid ä i dda, alias annod.
Mab tyfech ry pennid.
Mal un oll yn ieud Gragunan.
Mal y peilliant ymdeg.
Mûd arynaig y llafar.
Ni chymerai gogyl am ei gâr.
Ni elwir yn euog onis geirydd.
Ni asgyr a goffa trefgordd.
Nid gwr namyn gwrthmuni.





































Nid rhaid peidi yn llys arglwydd.

Nid ysgar angenawg ac anhychfryd.
O englyn ni ddaliaf haid.
Rhwy fu rhy fychod gynen.
Trengis a fremis, alias Trefwys.
Twyllid rhyfegid rhyfygiad. 

Dyma rai eto o nodwedd fyr:-
Cnoi awel.
Hael byrllofig.
Hiroed anniolch.
Hir lyngeswriaeth.
Iro blonhegen.
Llewid cywestach.
Llidiog lliosog.
Meithrin chwilerion.
Rhuthr mammaeth.
Rhygas rhywelir.
Addef yw tewi.
Addfed angeu i hen.
Abl i bawb ei gydradd.
Bid rydlyd dy arfau.
Bore i bawb pan goto.
Canu heb gywydd.
Can gwynted â’r gwynt.
Ceised pawb ddwfr i’w long.
Chwil gan nos.



Chwanog annoeth i ymliw.
Chwareu hen gi â chenau.
Dadleu gwedi barn.
Da daint rhag tafawd.
Dall yn barnu ar liwiau.
Echwyn yw nâg.
Edwyn hengath lefrith.
Eang yw’r byd i bawb.
Ffoi pob tlawd.
Ffordd Buallt i Henffordd.
Ffawd pawb yn ei dâl.
Gair gwraig gwneler.
Gwnawd ar eiddil ofalon.
Goreu canwyll pwyll i ddyn.
Harrd pob newdydd.
Haeddu anerch yw caru.
Hiraeth am farw ni weryd.
Iawn chwedlawg mab.
Iawn yn ymofyn meddyg.
Iro tin hwch â bloneg.
Llanw mewn llu.
Llaw lluaws ar waith.
Llawer gwir drwg ei ddywedyd.
Mal dyrnod pen.
Melus bys pan losgo.
Mynych y daw drwg fugail.
Neuadd pob diddos.
Nac ymddiried i estron.



Na wreica ond yn agos.
Odid difrio diwyd.
O daw ymenyn doed.
O’r badell ffrio i’r tân.
Pryn tra flingych.
Pryn hen pryn eilwaith.
Pawb a gâr eu gwala.
Rhygas pob rhywir.
Rhy dyn a dyr.
Rhag angau ni thycia ffo.
Swrth pob diog.
Sychu trwyn y swch.
Sef a ladd a gyhudd.
Teg pob hardd.
Temyl glwth ei gegin.
Tafawd aur yn mhen dedwydd.
Uchenaid at ddoeth.
Utgorn yw cwrw da.
Un geiniog a ddyly cant.
Wythnos y llwynog.
Wyneb llawen, llawn ei dy.
Y bendro wibwrn.
Yspys pawb pan ddarfo.
Ymguddio ar gefn y gist.